Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arall, ond yr oedd ei lygad ar y genedl yn gyffredinol, a'i awydd am ddyrchafu moliant y Goruchaf ymhlith pob enwad fel eu gilydd.

3. Llyfr Tonau Cynnulleidfäol. Gan Ieuan Gwyllt. Wrexham: R. Hughes and Son.

Y mae y rhagymadrodd i'r llyfr wedi ei ddyddio "Aberdâr, Ebrill 30ain, 1859." Dygwyd argraffiad allan yn y Tonic Sol-ffa, ac y mae y rhagymadrodd hwnw wedi ei ddyddio "Merthyr Tydfil, Ebrill 1863." Cyhoeddwyd hefyd Ychwanegiad, ac y mae y rhagymadrodd iddo wedi ei ddyddio "Fron, Ion. laf, 1870." Argraffwyd yr argraffiad neu ddau gyntaf yn Llundain gan Haddon & Co., ond y mae pob argraffiad ar ol hyny wedi ei ddwyn allan gan Hughes a'i Fab, Gwrecsam. Daeth allan hefyd argraffiad mewn score i'r harmonium neu yr organ, dyddiedig "Fron, Caernarfon, Ebrill 1876," yn yr hwn y mae trefn y tonau wedi eu newid; hyny yw, y Llyfr, yr Attodiad, a'r Ychwanegiad wedi eu hûno yn un llyfr. Cafodd y Llyfr Tonau hwn dderbyniad croesawgar, a chylchrediad helaethach nag un llyfr o'r fath a gyhoeddwyd erioed o'i flaen, nac un ychwaith, hyd yma, sydd wedi dyfod ar ei ol. Profa hyny, dybygem, ei fod wedi ymddangos mewn adeg yr oedd anghen am dano, a'i fod i raddau helaeth yn cyfateb i'r anghen hwnw. Y mae yn debyg mai hwn a ystyriai Mr. Roberts ei hun yn brif waith ei oes, o herwydd ystyriai berffeithio moliant cysegr Duw yn uwch amcan nag un arall. Ymddengys nad oedd nemawr o drefn ar ganiadaeth grefyddol yn Nghymru hyd ddygiad allan Psalmydd Edmund Prys tua'r flwyddyn 1620, yr hwn a gynnwysai nifer o donau syml, o ba rai y ceir esiamplau yn y Llyfr Tonau: Glasynys, Y. 26; a'r hen dôn ardderchog St. Mary, Rhif 92. Ar ol hyn nid oes genym nemawr o hanes cerddoriaeth grefyddol yn Nghymru am dros ganrif. Bu cyhoeddiad emynau Williams, Pantycelyn, yn ddechreuad cyfnod