Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Carai ef yn fawr gael Llyfr Emynau newydd. Nid oes genym un yn deilwng o'r enw. Fe allai y gallai pob enwad crefyddol yn Nghymru ddangos rhyw ddau neu dri o lyfrau hymnau ; ond anturiwn ddyweyd nad oedd un o honynt yn deilwng o'r enw, nid oedd gan un enwad le i daflu careg at y llall yn y mater hwn . Yr oedd pob un o'r llyfrau yma yn ormod o faint, ac yn cynnwys lluoedd o hymnau anaddas i'w canu mewn addoliad. Yn ol ei farn ef, buasai llyfr hymnau gwerth swllt yn ddigon mawr i gynnwys detholiad digon eang i'w harferyd mewn addoliad."[1] Bu yn traddodi darlith ar Gerddoriaeth fel hyn yma a thraw am flynyddau, a phan yn gwneyd teithiau cerddorol tua 1862 a 1863 mewn ambell i fan, rhoddid cyfle iddo wneyd hyny. A diammeu fod y ddarlith, neu y darlithiau hyn, wedi gwneyd eu rhan tuag at godi chwaeth y wlad, ac yn wir, agor llygaid y bobl i weled fod dau ddosbarth yn bod, a bod tonau syml a phriodol at wasanaeth cysegr Duw yn gyrhaeddadwy. Yn Chwefror, 1864, cawn hysbysiad fel y canlyn ar ddalenau y Cerddor Cymreig: " Aberth Moliant ; sef Traethawd ar Gerddoriaeth y Cysegr. Gan Ieuan Gwyllt. Bydd y gweithiau hyn yn y wasg yn ddioed. Pob Gohebiaethau, Archebion, &c., i'w hanfon fel hyn:—Rev. John Roberts (Ieuan Gwyllt), Merthyr Tydvil." Tybiwn mai cynnwys y darlithiau oedd yn gynnwysedig yn y Traethawd hwn, ond nis gwyddom a wnaeth byth ei ymddangosiad; os darfu, methasom gael gafael arno. Yr oedd y syniadau ar y pwnc hwn yn ffrwyth astudiaeth fanwl a thrwyadl am lawer o flynyddoedd, ac yn ddiammeu yn dadlenu yn gywir egwyddorion mawr a hanfodol caniadaeth grefyddol. Tybiwn hefyd ei fod yn cadw mewn golwg, nid un enwad, er ei fod ef yn adnabod y Methodistiaid yn well nag un enwad

  1. O'r Amserau; Darlith ar Gerddoriaeth yn Llanelli, Chwefror 9, 1856, y Parch. T. Levi yn y gadair.