Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

syniadau y bardd, fel yr oedd un pennill yn ein suo i ryw berlewyg sanctaidd, tra yr oedd un arall yn gwefreiddio ein holl enaid, gan osod holl gylch naturiaeth yn fflam. Beïai yr arferiad o gyfyngu y ganiadaeth i ryw dwr dewisol ac etholedig. Mynai y dylai yr holl gynnulleidfa ymuno i foli Duw, ac felly y dylid arferyd tonau ag y gellid dysgwyl i'r gynnulleidfa eu dysgu. Hefyd, gwasgai y priodoldeb o arferyd tonau syml, diaddurn, a rhydd oddiwrth bob rhodres a chelfyddyd. Camp celfyddyd oedd cuddio ei hun, ac nid oedd ganddo ef un gwrthwynebiad i gelfyddyd yn ngwasanaeth y cysegr, ond nid mor bell ag i hudo y canwr i hanner addoli y gelf, yn lle bod yn channel i arllwys ei foliant i Dduw. Yr oedd y tonau a ganwyd o wahanol gyfnodau. Rhoddai barch mawr i donau y Diwygiad Protestanaidd, a dywedai mai hwy oedd y cynllun goreu ellid gael. Fel engreifftiau o'r Anthem, cyfeiriai yr efrydydd at weithiau Farrant ac eraill, a gyfansoddasant tua thri chan' mlynedd yn ol. Cafodd cyfansoddwyr diweddar y Saeson, megys Jarman, White a T. Clark driniaeth arw iawn ganddo. Mynai fod y rhai hyn wedi darostwng yn fawr yr alwedigaeth sanctaidd. Canwyd darnau o'u gwaith hwy ac eraill fel engreifftiau o gerddoriaeth wael, yr hyn a wnai y gwych i ymddangos yn ddeng gwell, a'r gwael ddeng waith gwaelach, o herwydd y cyferbyniad. Ni ddylai ieuenctyd Cymru fod yn llonydd heb gael gan Mr. Roberts gyhoeddi ei ddarlith mewn rhyw ffurf. Diau y gwna rhai llefydd sicrhâu ei wasanaeth ef yn bersonol, ond gwnai ei hymddangosiad mewn argraff gyrhaedd corff y genedl. Pe llwyddid yn hyn, y mae genym hyder y rhoddid cyfeiriad newydd i dalent y wlad, ac y chwelid anghydfod mewn llawer man.—W. M."[1] Byddai yn ei ddarlith weithiau hefyd yn trin ar y pwnc, pa fath Hymnau oedd yn briodol i'r cysegr:—

  1. O'r Amserau, Awst 30, 1854.