Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dirfawr wedi dygwydd i iaith y pen, ond fod iaith y galon. mor effeithiol yn awr ag erioed. Wedi sylwi cryn amser fel hyn, daeth i sylwi ar Gerddoriaeth fel celfyddyd, a Cherddoriaeth fel rhan o'r addoliad Dwyfol. Annogai ieuenctyd i ymarfer â cherddoriaeth fel celfyddyd; gan y credai, er mai nid ei gwaith uniongyrchol hi oedd crefyddoli dynion, ei bod yn eu dwyn i sefyllfa fanteisiol i grefydd. Rhanodd gerddoriaeth gelfyddydol i ddau ddosbarth; hyny yw, dosbarth y mawr, a dosbarth y bychan. Sylwodd, er fod graddau i'w gweled yn fwy amlwg mewn arluniaeth nag mewn cerddoriaeth, eto eu bod mor wirioneddol yn yr olaf ag yn y flaenaf. Yn hono ceid golwg gyflawn ar y grisiau, o'r creadur dirmygedig sydd yn dwbio lliwiau i ddenu ynfydion i'r dafarn, hyd y bardd-arlunydd sydd yn sefyll yn ogoneddus ar ben y rhes. Yr oedd y cerddor medrus yn gallu dosbarthu cyfansoddiadau cerddorol fel yr oedd yr arlunydd yn medru rhestru arluniau. Brenin y gerddoriaeth gelfyddydol oedd Handel, a bai mawr cyfansoddwyr celfyddydol Cymru a Lloegr yn yr oes hon, oedd diffyg unoliaeth, yn yr hyn yr oedd Handel yn rhagori cymaint. Wedi i'r Côr Dirwestol ganu yr Hallelujah Chorus fel engraifft o gerddoriaeth gelfyddydol o'r dosbarth uchaf, aeth y darlithydd ymlaen i sylwi ar gerddoriaeth y cysegr. Ymgymerodd â'r gorchwyl o ddangos y berthynas sydd rhwng y celfau breiniol â chrefydd. Ystyriwn y rhan hon o'r ddarlith yn wir alluog. Carem pe b'ai holl ieuenctyd y Dywysogaeth yn clywed y sylwadau a wnaed ar y cysylltiad a ddylai hanfodi rhwng celfyddyd a chrefydd Mab Duw. Canwyd amryw donau syml er dangos pa fath, yn ol ei farn ef, a ddylai caniadaeth y cysegr fod. Heb ymostwng i wenieithio mewn un modd, dywedwn na chlywsom ni erioed gymaint o gyfiawnder yn cael ei wneyd â phennillion nefolaidd yr hen Williams, Pantycelyn, a'r tro hwn. Yr oedd y gerddoriaeth y tro hwn, fel y dylai fod bob amser, yn egluro