Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drysau. Nos Fawrth nesaf, cofier." Dyma yr adroddiad:— "Dowlais. Traddododd Mr. John Roberts (Ieuan Gwyllt) ddarlith ar Gerddoriaeth yn y lle hwn, nos Fawrth, wythnos i'r diweddaf. Y Parch. David Phillips, neu yn ol 'Cadwaladr' y 'General Phillips o'r Maesteg' yn y gadair.

'Nid llywio 'r gâd ofnadwy,
Ond hedd, heb na chledd na chlwy','

oedd ei orchwyl y noson hono. Cyflwynodd y darlithydd i'r gynnulleidfa lïosog, fel un yn meddu hyder y gwnai gyfiawnder â'r pwnc mewn llaw, ac yn hyn ni bu raid i ni oddef siomedigaeth. Gan fod yr ysgrifenydd wedi gorfod cymeryd ei genad o Ddowlais yn union wedi traddodiad y ddarlith, a'i fod yn ysgrifenu y nodiad hwn o honi yn y Palas Grisial, Sydenham Park, lle y mae pob mawredd ac ardderchogrwydd i foddhâu y llygaid, a phob melus seiniau i swyno y glust, fe allai y maddeuir iddo am roddi adroddiad byrach o honi nag a fuasai yn debyg o wneyd pe yn ei unigedd arferol gartref. Dechreuodd y darlithydd siarad am gerddoriaeth fel boneddiges deg, fel na feiddiai neb ond hurtyn neu ynte un o wŷr y gyfraith ofyn ei hoedran iddi; ond er fod ieuenctyd fel boreuddydd ar ei hael, a phob ystum yn arddangos hoywder, dywedodd fod lle cryf i gredu ei bod mewn tipyn o oedran serch hyny. Nad oedd ei hoed wedi lleihâu un gradd ar ei dylanwad, ond fod iaith y Bardd mor briodol yn awr a'r pryd hwnw,

'When Music, heavenly maid, was young,
While yet in early Greece she sung
The passions oft to hear her skill
Thronged around her magic cell.'

Y dyfyniad (deffiniad?) a roddodd o Gerddoriaeth oedd 'iaith y teimlad.' Geiriau oedd iaith y deall, ond corff ac enaid iaith y galon oedd sain. Dangosodd fod dyryswch