Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddengys iddo byth ddyfod allan, ac nis cawsom afael ar unrhyw reswm am hyny. Felly ar y seithfed rhifyn yr arosodd; ond y mae y rhai a'i derbynient y pryd hwnw yn meddwl yn uchel o hono hyd y dydd hwn, ac erys yn gofgolofn ragorol o lafur a diwydrwydd ei gasglydd, a'i awydd mawr am gyfranu addysg gerddorol bur ac uchel i'w gydwladwyr. Yn ffurf y Blodau Cerdd, ceir hedyn y syniad a ymddangosodd yn fwy addfed yn nghyhoeddiad y Cerddor Cymreig. Ond diammeu i'r cyntaf wneyd ei waith yn ganmoladwy, a chynnorthwyo i barotoi y ffordd i bethau mwy.

2. Darlith ar Gerddoriaeth.

Yr ydym yn crybwyll hon yn fwy helaeth yn y fan hon, am ei bod yn dyfod felly o ran amser, ac hefyd yr ymddengys ei bod wedi ei bwriadu i barotoi meddwl y wlad am ddiwygiad mewn cerddoriaeth, yn enwedig mewn cerddoriaeth gysegredig. Traddodwyd y ddarlith gyntaf, fel y gwelsom, tua dechreu 1854, yn nghapel Rose Place, Liverpool, a'r ail yr wythnos gyntaf yn Mawrth y flwyddyn hono. Nid ydym yn gallu cael allan a oedd wedi cyfansoddi un, dwy, neu ychwaneg o ddarlithiau ar y pwnc, ai ynte ei fod wedi meistroli y pwnc yn drwyadl, ac heb dynu allan ond rhyw sketch o lwybr iddo ei hun. Dygwyddasom, fodd bynag, daraw ar adroddiad lled gyflawn o'i chynnwys yn yr Amserau, fel y traddodwyd hi yn nghapel Hermon, Dowlais, a gwasanaetha i roddi syniad am dani; ac y mae dda genym roddi adroddiad hwn i mewn i fod "ar gof a chadw." Rhoddwn yn gyntaf yr Hysbysiad. "Dowlais. Traddodir darlith ar Gerddoriaeth yn nghapel Hermon, nos Fawrth, Awst 15fed, 1854, gan Mr. John Roberts (Ieuan Gwyllt), Golygydd yr Amserau. Cenir amryw donau eglurhäol yn ystod y ddarlith gan y Côr Dirwestol. Cymerir y gadair am hanner awr wedi saith o'r gloch, gan y Parch. D. Phillips, Maesteg. Tocynau,—Blaenseddau, swllt; Olseddau, chwe' cheiniog; i'w cael wrth y