Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gosod gorfodaeth chwerw arnaf i roddi Blodau Cerdd i fyny ar hyn o bryd. Ond os daw i mi eto ychydig seibiant oddiwrth drafferthion y swyddogaeth flin hon, gellwch benderfynu yr ymafaelaf yn y cyfleusdra cyntaf i ail gychwyn fy hoff waith gyda'r cyhoeddiad bychan hwnw. Hyd hyny yr ydym yn ysgwyd llaw ac yn canu yn iach â'n gilydd. Eich gwasanaethwr a'ch cyfaill cywir, IEUAN GWYLLT. Liverpool, Ion. 8fed, 1853." Ysgrifenwyd hyn ymhen tua mis ar ol symud i Liverpool. Ond os oedd yn brofedigaeth chwerw i'r golygydd roddi heibio ei "hoff waith," gallem dybied hefyd fod cryn hiraeth ar ol y Blodau Cerdd ymhlith ei dderbynwyr, ac y gofynid yn fynych ar ei ọl. Ac yn Awst 16, 1854, cawn fod yr Hysbysiad canlynol wedi ymddangos yn yr Amserau:—" Blodau Cerdd. Garedigion hoff,——Yn nghanol rhyw gnwd tew o ddrain a dyrysni a phob rhyw anialwch a ymblethasant o gylch gwraidd y 'Blodau' yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, bu agos iddynt anadlu eu perarogl diweddaf, nid i awyr wag, ond i galonau eu miloedd derbynwyr. Ond er fod ein gorchwylion yn aml ac yn drymion, rhag i'n cyfeillion llïosog, y rhai sydd yn parhâu i lefain ar ein hol, ddyfod yn y diwedd a'n syfrdanu, yr ydym yn penderfynu myned rhagom, os caniateir i ni fywyd ac iechyd, i orphen y gwaith. Dechreuasom, mae yn wir, gyda y plant ar y ffon isaf oll o'r ysgol; ond yr ydym yn bwriadu dwyn allan cyn gorphen rywbeth ag a fydd yn werth ceiniog a dimai o leiaf i unrhyw gerddor Cymreig yn ei gyflawn oedran. Cyhoeddir yr 8fed Rhifyn ar y cyntaf o Hydref nesaf, pris 11c. I'w gael gan Mr. E. Edwards, Queen Street, Aberystwyth, a chan holl lyfrwerthwyr y Dywysogaeth.—Yr eiddoch yn serchus, IEUAN GWYLLT." Gallasem dybied, oddiwrth fod yr Hysbysiad yn ymddangos mor agos i'r amser y bwriedid dwyn y cyhoeddiad allan, fod pob trefniadau wedi eu cwbl orphen, a bod y rhifyn bron yn y wasg. Ond nid