Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyda rhyw gymaint o gyfnewidiadau mewn rhai o honynt; megys Hungerford (Rhif 220), Jerusalem (Rhif 40), Llangeitho (Att. 9), Darwell (Beverley, 138), Pisga (Ardudwy, Y. 68; Awdwr, I. Gwyllt). Mae y rhan fwyaf wedi eu cynghaneddu neu eu cyfaddasu ganddo ef ei hun, a chawn. gynghaneddiad gwych o'r hen alaw "Codiad yr Hedydd," ar eiriau ar yr "Adgyfodiad." Y mae llawer o'r geiriau hefyd wedi eu cyfansoddi ganddo ef ei hun; megys Genedigaeth y Messiah, Marwolaeth y Messiah, Duw yn y cnawd, Y Nefoedd, cyfieithiad o Emyn Genadol Heber, Moliant Iesu. Ymhlith y darnau mwyaf swynol, gallem nodi Luconia, Franconia, y Nefoedd, a Moliant Iesu. Y mae y rhai hyn yn neillduol o hapus; ac nid rhyw bethau ephemeral ydynt, ond darnau llawn o sylwedd. Y mae y casgliad hwn yn dangos ôl llafur mawr a chwaeth uchel, a gallu cryf iawn i gyfaddasu a chynghaneddu. Ceir yma ddernyn mwy anhawdd, "Gwynfa," wedi ei gyfaddasu ar eiriau Cymreig gan I. Gwyllt, allan o'r Seasons gan Haydn; ac yn y rhifyn olaf a ymddangosodd, cawn ddernyn ar "Ddydd y Farn," o waith Mr. J. A Lloyd, a anrhegwyd i'r Blodau Cerdd gan yr awdwr. Fel hyn yr oedd y ddarpariaeth a geid ymhob rhifyn am geiniog a dimai, er nad yn fawr o ran swm, eto yn rhagorol iawn o ran ei natur, a rhoddwyd i'r llyfr dderbyniad croesawgar. Ond ar ol myned i Liverpool ysgrifenwyd y canlynol, yr hyn, ni a dybiem, a argraffwyd yn arbenig fel rhagymadrodd, gyda thitle page:—"At dderbynwyr 'Blodau Cerdd.' Garedigion Hynaws,—Yr wyf yn dra diolchgar i chwi am y gefnogaeth a roddasoch i'm Misolyn bychan. Yr oeddwn yn tybied y gallaswn fyned ymlaen ar ol symud i'r dref fawr, boblogaidd, fyglyd hon, a darparu sypyn bychan o 'flodau' i chwi bob mis; ond buan iawn y cefais, er fy siomedigaeth, fod hyny yn annichonadwy. Y mae y gorchwylion lliosog a phwysig sydd wedi disgyn ar fy ysgwyddau fel prif olygydd yr Amserau, yn