Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgogiad pwysicaf ar hyn o bryd, yn y cyfeiriad hwn, yw yr Undebau a ffurfir yma a thraw, er symleiddio, coethi, a chrefyddoli ein caniadaeth gynnulleidfäol. cyntaf o'r rhai hyn, hyd y gwyddom, a ffurfiwyd yn y Bala, yn haf y fl. 1859. Cynnwysai yr Undeb hwnw holl gynnulleidfäoedd y Methodistiaid Calfinaidd yn Nosbarth Penllyn. Mewn pwyllgor cynnwysedig o gynnrychiolwyr y gwahanol gynnulleidfäoedd, dewiswyd nifer of dônau ynghyd a geiriau priodol i'w canu arnynt. Ar ol eu dysgu, cafwyd cyfarfod mawr cyhoeddus yn y Bala i'w cydganu. Yr oedd y fath flas ar y cyfarfod hwnw, fel y penderfynwyd cael un cyffelyb y flwyddyn ganlynol. Hyny a fu; ac yr oedd hwnw drachefn yn hynod o lwyddiannus. Deallwn fod cerddoriaeth gynnulleidfäol yn yr ardaloedd hyny wedi cyfnewid yn fawr iawn er gwell trwy yr ysgogiad. Ymledodd yr ysbryd i Gorwen, yn yr un Sîr; ac yr ydym yn deall fod ysgogiad cyffelyb ar droed yn Nosbarth Edeyrnion. Yn chwarelydd poblogaidd Ffestiniog drachefn, sefydlwyd undeb i'r un perwyl, a chafwyd yno un cyfarfod cyhoeddus tra effeithiol. Tua'r un amser, dechreuodd pobl Arfon ymysgwyd; ac erbyn hyn yr ydys wedi penderfynu yno ar nifer o dônau a hymnau i'w dysgu, ac y mae cyfarfod mawr cyhoeddus i gael ei gynnal yn ystod yr haf dyfodol yn Nghastell Caernarfon, i'w canu. Wrth ganfod y cyfeillion yn y Gogledd yn myned rhagddynt mor lwyddiannus yn y gwaith canmoladwy hwn, teimlodd rhai lleoedd yn y Deheubarth awydd cryf i gychwyn yn yr un cyfeiriad. Ffurfiwyd Undeb yn Nosbarth Merthyr a Dowlais. Cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus cyntaf yr Undeb hwn yn nghapel Pontmorlais, Merthyr, pryd yr oedd y capel eang hwnw yn llawn, a chanwyd wyth o dônau cynnulleidfäol yn dra hyfryd. Mae yr undeb hwn wedi penderfynu cynnal ei gyfarfod cyhoeddus bob saith wythnos; ac felly,