Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bydd y nesaf ar y 5ed o'r mis hwn (Mawrth 1861). Mae yr Annibynwyr hefyd yn Merthyr a Dowlais wedi ffurfio undeb cyffelyb, ac yn bwriadu cynnal eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Zoar, Merthyr. Fel yr ydym yn ysgrifenu, dyma lythyr o Gaerdydd, yn ein hysbysu eu bod hwythau wedi ymuno—fod tônau a hymnau wedi eu dewis—ac y cynnelir y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn mis Ebrill. Mae yr undebau hyn yn rhwym o wneuthur daioni annesgrifiadwy; a charem weled y cyffelyb wedi ei ffurfio ymhob ardal drwy yr holl wlad." Ond y mae y dyfyniad canlynol o lythyr Mr. David Evans, Caerdydd, er hyn oll, yn benderfynol: "Dichon hefyd y dylem eich cofio i ni gael un 'Gymanfa o Ganu Cynnulleidfäol' yn y flwyddyn 1859, Ionawr 10fed, yn Aberdâr. Yr oedd hon yn hollol dan arweiniad Mr. Roberts; efe ymgymerodd â dethol y tônau a'r hymnau, &c. Dyma'r Gymanfa Gynnulleidfäol gyntaf yn ngwlad y gân, gallwn feddwl. I hon daeth corau Gwent a Morganwg fel un gynnulleidfa, ac nid fel corau. Cafwyd canu da, wrth gwrs, ond nid oedd y myn'd fel yr oedd yn y llall (Cymanfa Gwent a Morganwg): yr oedd yn amlwg ei bod ar y cynaraf, goruchwyliaeth Ioan Fedyddiwr heb orphen ei gwaith. Mae wynebddalen (Programme) y Gymanfa hon fel y canlyn:—'Y Tônau a'r Hymnau a genir yn nghyfarfod cyntaf Cymanfa Gerddorol Gynnulleidfäol Gwent a Morganwg, a gynnelir yn Aberdâr, Ionawr 10fed, 1859. Detholwyd y Tônau allan o'r Llyfr Tonau Cynnulleidfaol gan Ieuan Gwyllt.' Yr wyf yn falch fod yr hen Brogram ar gael." Yr oedd hyn cyn i'r Llyfr Tonau ddyfod allan (yn Ebrill 1859), ac felly, mae yn debyg mai cael argraffu nifer o gopïau a wnaed tra yr oedd y llyfr yn y wasg. Sylwer, yr oedd hwn yn cymeryd i mewn gylch corau Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Gwent a Morganwg; felly mae yn debyg mai y corau hyny wedi