Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyfod at eu gilydd oedd yma, ac nid undeb cynnulleidfäoedd ac un gymanfa a gafwyd o'r cyfryw natur, ac yn ddiddadl, dyma'r gyntaf o'r cyfryw yn Nghymru. Ond yn y Bala, mae yn debyg, yn ol fel y dywed y Cerddor, y ffurfiwyd yr undeb cynnulleidfäol cyntaf, yn yr haf, ar ol i'r Llyfr Tonau gael ei gyhoeddi. Ni a dybiwn fod Mr. R. H. Pritchard, a'r diweddar Mr. John Jones, Llidiardau, a chyfeillion cyffelyb, yn cychwyn y symudiad hwn; ond ai ynddynt hwy y gwreiddiodd y syniad? Mae yn lled debyg nad ê, ond iddo ddyfod o Aberdâr, naill ai oddiwrth Mr. Roberts ei hun, neu o weled hanes y cyfarfod Ionawr 10fed. Wedi hyny yn 1861, tua Ionawr, y ffurfiwyd yr Undeb Canu Cynnulleidfäol cyntaf yn Merthyr a Dowlais, ac yr oedd y cylch hwn yn llawer llai nag yn 1859, a mwy ymarferol. Mae o'n blaen yn bresennol brogramme Pummed cyfarfod cyhoeddus "Undeb Cerddorol Cynnulleidfäol Merthyr a Dowlais," yr hwn oedd i'w gynnal "Nos Lun, Awst 26, 1861, am 7 o'r gloch," ymha un y nodir saith o dônau a hymnau arnynt, ac y dywedir fod y "Cyfarfod Rhagbarotoawl i'w gynnal yn nghapel Pontmorlais, Merthyr, Nos Wener, Mehefin 28, 1861. David Rosser, Ysgrifenydd." Dengys hyn yn amlwg fod ymddangosiad y Llyfr Tonau wedi creu deffröad cyffredinol drwy yr holl wlad, ac ymledodd yr undebau hyn, a daeth galwad am gasglydd y llyfr i fyned oddiamgylch gyda'r canu. Yn yr haf 1861, cymerodd daith gerddorol drwy Feirionydd, Eifionydd a Lleyn, yn cynnal, gan mwyaf, ni a dybiem, gyfarfodydd canu cynnulleidfäol, ond weithiau hefyd yn traddodi ei ddarlith; a rhoddir hanes y daith yn lled fanwl yn y Cerddor; ac yn 1862 bu trwy ranau o Sir Benfro; Sir Gaerfyrddin, Mai, 1863; drwy Sir Fôn, "ar wahoddiad y Cyfarfod Misol," Mehefin, 1863; Sir Aberteifi, Hydref yr un flwyddyn; a Mai a Mehefin, 1863, yn Siroedd Caerfyrddin a Dinbych. Yn Awst, 1866, arweiniai y canu