Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn Cymanfa Ganu Gynnulleidfäol yn Mhwllheli. Yr oedd yn dda erbyn y blynyddoedd hyn ei fod yn rhydd oddiwrth bob cysylltiad â newyddiadur, fel y gallai dreulio ei amser yn fwy llwyr yn y cysylltiad yma, a pharhaodd yn ddyfal gyda hyn hyd ei farwolaeth, ac yr oedd lliaws o Gymanfäoedd yn dysgwyl am dano yn haf 1877. Hoff waith iddo oedd hyn, ac yr oedd yn fynych yn cael gafael ar yr ysbryd addoli ynddo, ac yn tywallt ei galon iddo. Ar yr un pryd, nid ydoedd ymhob ystyr yn arweinydd o'r fath oreu—o'r fath fwyaf llwyddiannus. Am ei wybodaeth gerddorol, wrth gwrs, yr oedd yn ddihafal, ac yr oedd ganddo glust ddigymhar, ac yn y pethau hyn yr oedd yn perthyn i ddosbarth cyntaf yr oes; ond prin y gallwn ddyweyd fod ysgogiadau y llaw yn ddigon amlwg a well-marked i fod yn hawdd i'w ddilyn. Nid oedd ychwaith yn meddu y dengarwch hwnw mewn dull, oedd yn tynu dynion ar ei ol. Y mae ambell un a fedr gael gan eraill wneyd gwaith, bron heb yn wybod iddynt eu hunain; y mae yn medru ennill rhyw swyn, a dylanwad arnynt, nes eu caethiwo wrtho. Y mae un arall, y mae rhyw bellder naturiol rhyngddo ef a hwy, nes y mae yn rhaid iddo ddemandio cryn lawer arnynt. Un o'r dosbarth olaf hwn oedd efe, ac yr oedd yn anfantais fawr iddo; diffyg yn ei natur ydoedd, ac nas gallai wrtho, ond yr oedd yn ei osod yn agored yn fynych i gael ei gamddeall gan ddynion, ac yn cael felly; ac ni buasai yn gallu llwyddo mor anghyffredin, er yr anfantais hon, oni b'ai fod yna ryw uchafiaeth (superiority) anghyffredin yn perthyn iddo. Ymdrechai efe yn deg hefyd yn y cwbl i fyned i mewn at ysbryd y canu, ac i gynnyrchu syniadau teilwng am dano.

Dylem grybwyll hefyd ei fod, tra yn byw yn Merthyr, ac wedi astudio y Tonic Sol-ffa, yn meddu dosbarthiadau i ddysgu y gyfundrefn hono, a llawer o ddysgyblion, a'r un modd yn Llanberis, yn 1865. Cawn fod oll tua 229 o rai dan