Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei addysg of a dau eraill. Ac wedi dyfod yn Arholydd ei hun, cawn iddo arholi mwy am dystysgrifau, mae yn debyg, o lawer na neb arall yn Nghymru. Am flynyddoedd, nid oedd bron fis yn myned heibio nad oedd nifer mawr o enwau rhai wedi eu harholi ganddo am yr Intermediate Certificate, yn ymddangos ar du dalenau y Cerddor. Pasiodd efe ei hun am yr Intermediate tua diwedd haf 1863,[1] drwy gael ei arholi gan ei hen gyfaill Mr. E. Roberts, Liverpool. Ni cheisiodd basio yn uwch yn y Tonic Sol-ffa. Y rheswm penaf am hyny, mae yn ddiammeu, oedd diffyg amser i ymarfer; am wybodaeth yr oedd uwchlaw pob cwestiwn. Nid bychan fu ei lafur mewn cymhell, ac arholi, a dysgu y gyfundrefn hon.

9. Beirniad Cerddorol.

Yr oedd wedi dechreu beirniadu cerddoriaeth cyn ymadael o Aberystwyth, ond wedi myned i Liverpool daeth i sylw cyffredinol yn fuan. Tra yr oedd efe yn Aberystwyth, yr ydym yn tybied, ymddangosodd llythyrau galluog yn yr Amserau dan y ffugenw "Gogrynwr," yn cynnwys adolygiad llym ar Feirniadaeth Anthem neu Gydgan mewn Eisteddfod,[2] lle yr oedd sail gref dros ddyweyd fod camwri wedi ei wneuthur. Tynodd y llythyrau hyny sylw cyffredinol, a thybiai llawer oedd yn adnabod Ieuan Gwyllt mai efe oedd eu hawdwr, am na wyddid am neb digon galluog i'w hysgrifenu ond efe, ac hefyd oddiwrth y ffaith mai "Gogrwr" oedd ei dad. Fodd bynag, y mae genym ddigon o sail dros ddyweyd yn bendant mai nid efe oedd "Gogrynwr,"[3] er y

  1. Yr ydym yn ei gael ei hunan yn cyfieithu y Llyfr Tonau i'r Tonic Solff, ac yn tybied ei fod o fewn pythefnos i'w orphen Chwefror 12, 1862, (llythyr at Mr. E. Roberts); er hyny, ni ddaeth y llyfr allan hyd fis Mehefin, 1863.
  2. Yr ydym wedi methu yn deg a chael o hyd i'r ddadl hon i allu rhoddi mwy o fanylion am dani.
  3. Y diweddar Mr. T. Jones, Meddyg, Corwen. Gwel y Methodist, Hydref, 1855.