Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dichon ei fod ef wedi ysgrifenu rhywbeth mewn cysylltiad â'r ddadl hon dan ffugenw arall. Yr oedd yn feirniad Eisteddfod Ffestiniog 1854, a Llundain a Manchester yn 1855, ac ar ol hyny yr oedd ganddo gyflawnder o'r gwaith hwn ar ei ddwylaw yn barhâus. Clywsom ef yn dyweyd, nad oedd un Eisteddfod Genedlaethol er ys tuag 20 mlynedd nad oedd wedi cael ei ofyn i feirniadu ynddynt, a bu mewn rhai o honynt; ond safai yn gryf ac yn benderfynol yn erbyn, os deallai fod dynion o gymeriad isel i gael lle ar eu hesgynlawr; nid oedd dim yn ei boeni yn fwy na hyny. Credai fod yr Eisteddfod yn allu cryf i wneyd daioni, ond yr oedd yn rhaid ei chael yn bur oddiwrth lygredigaeth fel hyn; ac y mae yn ddiddadl fod ei brotests ar y mater hwn wedi cynnorthwyo i ddyrchafu llawer ar yr Eisteddfod. Ysgrifenai feirniadaethau manwl a galluog, pa rai a gyhoeddid yn yr Amserau, ac wedi hyny yn y Cerddor Cymreig, ac yr oedd y goleuni a wasgarodd yn y dull hwn yn un o'r moddion mwyaf effeithiol i addfedu y wlad am gael diwygiad yn cerddoriaeth. Ysgrifenai hefyd adolygiadau manwl ar lyfrau. Trwy bethau fel hyn daeth i gael ei gydnabod fel un o'r awdurdodau uchaf, os nad yr awdurdod uchaf oll. Ni byddwn yn dyweyd gormod wrth ddyweyd nad oedd neb yr oedd gan ein cerddorion oll ymddiried mwy llwyr ynddo, os cymaint, fel beirniad coethedig, galluog, a chywir, a diduedd. Ac yr oedd efe yn meddu cymhwysderau neillduol i fod yn feirniad cerddorol. Dichon fod beirniadu canu, yn enwedig canu corawl, yn un o'r pethau mwyaf anhawdd; o herwydd ei fod yn gofyn gallu i gyfuno—i concentratio—ar unwaith gynifer o wahanol sylwadaeth ar ddadganiad sydd yn symud ymlaen mor gyflym. Wedi cael y cywair i ddechreu, rhaid sylwi yn fanwl fod hwnw yn cael ei gadw; fod pob nodyn ymhob llais yn cael ei sain a'i le priodol; fod amser pob un cael ei gadw yn gywir; fod cyfartaledd priodol yn cael ei gadw trwy y lleisiau;