Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod y geiriau yn cael eu dadgan a'u hacenu yn briodol; fod y mynegiant yn cyfateb i ansawdd y geiriau a'r gerddoriaeth; fod y lleisiau yn cyd—doddi i'w gilydd, ac yn dadgan y seiniau yn naturiol a phriodol; ac yn y cwbl, fod enaid, ysbryd, ac amcan y cyfansoddiad yn cael ei gyrhaedd. Mae ambell un sydd yn deall cerddoriaeth yn dda yn ei hegwyddor, eto heb feddu clust ddigon teueu ac arferedig i ddarganfod mân frychau; a dichon fod ambell un all farnu cywirdeb dadganiad yn lled dda, eto heb feddu digon o graffder i sylwi ar y mynegiant ac ysbryd y cyfansoddiad. Ond yr oedd ynddo ef un o'r cyfuniadau mwyaf cyflawn o'r cymhwysderau anghenrheidiol. Meddai gydnabyddiaeth gyflawn â cherddoriaeth yn ei holl agweddau, clust anghyffredin o deneu a chyfarwydd, a chraffder neillduol i ganfod pob peth anghenrheidiol, ac uwchlaw y cwbl, ysbryd oedd yn gallu cydymdeimlo âg ysbryd y cyfansoddwr. Yn y cyfan hefyd, yr oedd ynddo y fath chwaeth bur, y fath sense o anrhydedd, cywirdeb a chydwybodolrwydd, fel nas gallai neb deimlo ammheuaeth o'r fath leiaf, y gwnelai degwch a chyfiawnder â phawb, "pe syrthiai'r nefoedd." Y mae yn debyg na lanwodd un cylch yn fwy cyflawn nag yn ei waith yn eistedd yn ei gadair feirniadol. Ac yn ei holl gysylltiadau fel y cyfryw, y mae yn ddiammeu y teimlir ei fod y beirniad mwyaf uchel, mwyaf anrhydeddus, a mwyaf craffus a fagodd Cymru erioed. Beirniadodd lawer iawn ymhob cylch, o'r Eisteddfod Genedlaethol hyd y Cyfarfodydd Llenyddol distadlaf, ond ceid ef yr un, yn fanwl a thrwyadl, a chydwybodol ymhob man; ni wnai y gwaith yn ddiofal ac ysgafala am fod y lle yn fychan, neu y cystadleuwyr yn ddisylw ac anfedrus, ond mynai gyflawni ei waith yn fanwl a pherffaith dan bob amgylchiadau.

Yn yr holl lafur mawr ac eang hwn o'i eiddo fel cerddor, nid oedd yn ymorphwys ar yr adnoddau yr oedd wedi eu casglu ynghyd yn ystod hanner cyntaf ei oes. Yr oedd yn