Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dal ar bob cyfleusdra ac yn llafurio yn ddyfal i cangu ei wybodaeth ei hun, ac i ymgydnabyddu yn drwyadl â phob peth oedd yn cymeryd lle yn y byd cerddorol. Nid oedd un symudiad o unrhyw bwys yn cymeryd lle yn Nghymru, nac mewn un wlad arall, mewn cysylltiad â cherddoriaeth, nad oedd efe yn sylwi yn fanwl arno ac yn mynu ei ddeall. Ni byddai un cantor na cherddor farw, nac yn ymneillduo oddiar yr esgynlawr, na byddai efe yn gwybod ei hanes; ni chyfodai un cerddor newydd i sylw na byddai efe yn deall yn lled fanwl ei gyfeiriad; nid ymddangosai un gwaith cerddorol na fynai ei ddeall yn drwyadl. Yr oedd yn drysorfa o wybodaeth gerddorol ddihysbydd. Nid ydym ar hyn o bryd yn gallu gwybod a ydyw y traethodau, &c., a ddechreuwyd mor ragorol yn y Cerddor, &c., wedi eu cario ymlaen neu eu gorphen ymhlith ei lawysgrifau. Fel y maent, y maent yn wir werthfawr; ond os ydynt yn fwy cyflawn, y mae ynddynt drysorau anmhrisiadwy i genedl y Cymry, na ddylid eu gadael i fyned i golli.

II. EI LAFUR FEL LLENOR.

1. Golygiaeth yr Amserau. Rhagfyr 10fed, 1852, hyd Hydref 21ain, 1858.

Yr oedd yr Amserau y pryd hwnw yn newyddiadur o bwysigrwydd mawr, a chryn gyfrifoldeb oedd ymgymeryd â'i olygiaeth. Er mai nid efe oedd y newyddiadur cyntaf→ yn 1814—15 cyhoeddwyd y Seren Gomer gan Joseph Harris, —eto gellid gyda llawer o briodoldeb alw yr Amserau yn "dad" newyddiaduron Cymru. Cychwynwyd ef yn 1843. Cawsom yn ddiweddar weled y rhifynau cyntaf o hono, ac yr oedd teitl y cyntaf fel y canlyn,—"Yr Amserau, Dydd Mercher, Awst 23, 1843. Pris Tair Ceiniog. Liverpool: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan John Jones (o No. 6, Great Newton Street) yn ei swyddfa yn 21, Castle Street, lle y derbynir Hysbysiadau, ac y cyfarwyddir pob Gohebiaeth i'r Golygydd.—Dydd Mercher, Awst 23, 1843." Y Golygydd