Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BYWYD AC ATHRYLITH

Y DIWEDDAR BARCH. JOHN ROBERTS (IEUAN GWYLLT).


PENNOD I.

RHAGARWEINIAD.

MAE cael bod yn feithrinfa i un gŵr o athrylith, ac enwogrwydd mewn daioni, yn anrhydedd ag y gall unrhyw gymydogaeth fod yn falch o hono; ond y mae yn dygwydd weithiau fod ambell i gymydogaeth yn cael y fraint o fod yn feithrinfa i amryw wŷr o athrylith tua'r un adeg. Yn esiampl o hyn, gallwn gyfeirio at ran o Eifionydd yn Sir Gaernarfon, lle y bu yr enwogion barddonol Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu o Eifion, ac Eben Fardd yn cydoesi, ac a elwir yn fynych yn "wlad y beirdd." Dygwyddodd yn gyffelyb i Penllwyn yn Sir Aberteifi yn ystod y deugain neu yr hanner can' mlynedd diweddaf; ac nid yn fynych y ceir mewn unrhyw gymydogaeth, yn enwedig un mor wledig, fod cynifer o ddynion mor ragorol wedi codi ynddi, mewn cyfnod mor agos i'w gilydd, ag a adawsant gymaint o'u hargraff ar eu hoes, ac y mae yn dda genym ychwanegu, er daioni. Hyd yr ydym wedi cael allan, nid oes genym hanes am neb o hynodrwydd neillduol wedi codi o'r gymydogaeth hon cyn hyny. Symudodd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn) yno trwy briodi, a phreswyliai yn Mhenbryn y barcud, Dyffryn Melindwr, am y rhan ddiw-