eddaf o'i oes, o 1749 hyd 1765, a chladdwyd ef yn eglwys y plwyf, sef Llanbadarnfawr. Ond wedi hyny cawn enwau y Parch. L. Edwards, D.D., o'r Bala, ynghyd a'r Parch. Thomas Edwards, ei frawd, gŵr da ac o ddylanwad mawr ; y Parch. John Williams, Llandrillo, Llywydd Cymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngogledd Cymru am 1879; a'r tri brawd, sef gwrthddrych ein hanes, y Parch. Robert Roberts, Llundain, a'r Parch. Isaac Roberts, gŵr ieuanc hoffus ac addawol iawn; hefyd, y Proffeswr John Rhys, Rhydychain, o Bonterwyd, a'r Parch. J. Cynddylan Jones, Caerdydd, o Gapel Dewi, a nifer eraill heb ddyfod mor amlwg. O'r rhai hyn y mae tri yn ymddyrchafu yn uwch o'u hysgwyddau i fyny yn eangder eu defnyddioldeb, a dylanwad eu hathrylith; sef, y Parch. Dr. Edwards, mewn llenyddiaeth a duwinyddiaeth; John Rhys, Ysw., mewn ieithyddiaeth; ac Ieuan Gwyllt mewn cerddoriaeth, ac yn benaf cerddoriaeth gysegredig. Yn sicr, gall Penllwyn fod yn falch o'i henwogion, ac ymffrostio ynddynt.
Saif Penllwyn oddeutu pum' milldir i'r dwyrain o dref Aberystwyth, ar y brif-ffordd o Aberystwyth i Lanidloes. O'r tu cefn iddo, tua'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain, y mae bryniau uchel cyfres y Plunlumon. Cychwyna yr afon Rheidol o lyn Llygad y Rheidol yn agos.i gopa uchaf y Plunlumon, ac wedi amgylchu ychydig, rhed tua'r dehau am bellder maith, hyd nes y cyferfydd â'r Mynach islaw Pont ar Fynach; yna try trwy ddyffryn cul tua'r gorllewin, ac wedi gadael y mynyddoedd o'i hol, derbynia y Melindwr, yr hon a ymarllwys iddi o ddyffryn coediog y Melindwr; ac yna ymddolena yn brydferth trwy ddyffryn agored tua'r môr. Saif Penllwyn yn agos i gyfuniad y Melindwr a'r Rheidol. Ac y mae yr olygfa yn y fan hon yn ardderchog, y bryniau uchel o'r tu cefn yn ymlethru yn drumau graddol y naill uwchlaw y llall ar bob llaw, a'r ddau ddyffryn, y Melindwr a'r Rheidol, ar ol ymwthio