Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allan i gyfarfod eu gilydd, megys, o ganol y mynyddoedd, ac wedi ymuno yn graddol ymledu tua'r gorllewin. Yn y dyffryn oddeutu y pentref, ceir y prydferth a'r swynol; ond wrth fyned i fyny tua'r mynyddoedd ceir y mawreddog a'r rhamantus a'r aruthrol. Nid oes dim neillduolrwydd yn y pentref, os gellid ei alw ar yr enw hwnw; gelwir yr eglwys wrth yr enw Capel Bangor, ac nid ydym yn deall fod dim hynod i'w ddyweyd am dani. Y mae yma gapel prydferth a helaeth gan y Methodistiaid Calfinaidd, a adeiladwyd gyntaf yn y flwyddyn 1790, yr ail waith yn 1821, a'r drydedd waith yn 1850, a medda fynwent helaeth, yn yr hon y mae cofgolofn brydferth i'r Parch. Thomas Edwards, er fod ei gorff yn gorwedd yn mynwent Capel Bangor. Y mae yma ysgoldŷ helaeth mewn cysylltiad â'r capel, yn yr hwn y cedwid ysgol ddyddiol sydd wedi bod o oes i oes yn feithrinfa i lawer o wŷr enwog, a'r hon sydd yn awr dan ofal y Bwrdd Ysgol. Ardal amaethyddol hollol ydyw, ond yn uwch i fyny y mae mwngloddiau plwm enwog y Goginan.

Tueddwyd ni i ofyn, Beth, tybed, allai fod yn rhoddi cyfrif dros fod cynifer o wŷr grymus wedi codi mewn lle fel hyn mewn cyfnod neillduol? Nis gellir priodoli hyn yn unig i agwedd naturiol y lle, oblegyd y mae golygfeydd natur wedi bod yno yn debyg yr un fath o oes i oes; er, ar yr un pryd, y tybiwn fod golygfeydd natur yn meddu rhyw ddylanwad ar ddullwedd meddwl dyn. Diammeu fod dynion o athrylith yn cael eu creu felly gan y Brenin mawr; pan ddelo "cyflawnder yr amser" i alw am danynt, ei fod Ef yn eu darparu ac yn eu cymhwyso i wneyd eu gwaith. Ond cymhwysir hwy drwy foddion,―rhaid i athrylith gael moddion i'w meithrin a'i thynu allan, er ei chymhwyso i'w gwaith. Fel rheol gyffredin, ceir fod ôl dwylaw dynion neillduol ar ddynion enwog, wedi bod yn rhoi cychwyniad iddynt ac agor eu meddyliau. Ac nid dynion cyffredin