Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fydd y rhai hyny ychwaith;—nid pob un sydd yn sydd yn meddu y "ddawn" i hyfforddi a chychwyn meddwl yr ieuanc yn briodol, ac nid pob un dysgedig. Y mae medru rhoi cyfeiriad grymus i'r meddwl ieuanc, a deffroi ynddo yr ymdeimlad o hono ei hunan a'i nerth, yn ddawn" ar ei phen ei hunan, nad oes llawer o'r hil ddynol yn ei meddu. Gwyn fyd y gymydogaeth sydd yn meddu y cyfryw. Dichon nad ydynt yn rhai enwog eu hunain, ond yn gweithio yn ddystaw a disylw, o wir bleser gyda'r gwaith; ond nid oes prophwyd all ragfynegu canlyniadau y fath lafur gwerthfawr. Nid oes dadl nad oes llawer talent ac athrylith wedi eu claddu, heb byth adgyfodi, o ddiffyg rhyw law gyfarwydd i roddi bywyd ynddynt. O herwydd hyn teimlasom awyddfryd cryf i gael edrych ychydig o'r tu cefn i'r enwogion a enwyd, i edrych a fu yno rywrai felly yn meithrin yn Mhenllwyn—yn "dadau naturiol yn y ffydd" i'r ieuenctyd. Yr oedd yr Ysgol Sabbothol mewn bri mawr yno, a diammeu i'r ardal hon, yn gystal ag eraill, deimlo oddiwrth y cynhyrfiad grymus a roddwyd i'r Ysgol trwy lafur y Parch. Owen Jones, Gelli, pan yn ddyn ieuanc yn Aberystwyth. Ac wrth wneyd ymholiad ynghylch yr hen bobl, caem fod yno hen weddiwr neillduol o'r enw Thomas Abel, a blaenor o'r enw Lewis Edwards yn ddyn rhagorol, ynghyd ag eraill o wŷr da ond heb fod o neillduolrwydd mawr. O'r diwedd daethom o hyd i ychydig o hanes John Davies, saer, Melin Rhiwarthen, yr hwn a fu yn cadw ysgol i ddysgu Gramadeg Cymraeg, ac a ystyrid y gramadegwr goreu yn yr holl ardaloedd, ac a fyddai yn flaenllaw mewn dosbarthiadau darllen, ac yr oedd hefyd yn ddyn o feddwl cryf anghyffredin. Mae yn ddiammeu iddo ef wneyd llawer er diwyllio meddyliau ei gymydogion. A'r un adeg yr oedd Evan Rhobert y "Gogrwr," ac y mae efe yn teilyngu helaethach sylw oddiwrthym, ar fwy nag un ystyriaeth.