Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Gogrwr," hyny yw gwneuthurwr gograu, oedd wrth ei alwedigaeth, a gallem dybied mai nid rhyw lawer o elw ellid wneyd oddiwrth yr alwedigaeth hono, oblegid hysbysir ni mai mewn amgylchiadau hynod o isel yr oedd yn byw, a chyda'i wraig "Bet," ys dywedid, yn ceisio magu ei blant. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1784. Nid oes genym hanes pa bryd y daeth at grefydd, ac nid heb dipyn o helbulon a phrofedigaethau y dilynodd hi, oblegid yr oedd yn dipyn o brofedigaeth iddo ymollwng gyda'r ddiod feddwol. Ar ei briodas gwnaed gweithdŷ John Davies y saer yn dŷ iddo ef a'i wraig breswylio ynddo. Bu ar ei feddwl bregethu amryw droion, ac os byddai rhywun arall yn meddwl pregethu, byddai yntau, hefyd yn teimlo yr un ysbryd; ond dygwyddai yn rhyfedd iawn, pan ddeuai yr ysbryd hwn arno, ac iddo yntau fod ar ei brawf, syrthiai i'w demtasiwn, a rhoddai hyny ben ar y mater, ac ymddyg ai yntau yn lled dda hyd nes y deuai yr un cynhyrfiad eilwaith. O'r diwedd dewiswyd ef yn flaenor, ac ni bu son am bregethu mwy. Tua'r adeg y daeth Cymedroldeb a Dirwest i'r wlad, ymddengys y cynnelid cyfarfodydd pryd y gallai dynion arwyddo ardystiad i fod yn gymedrolwyr, a derbyn y "garden goch" (red card), neu i fod yn llwyrymwrthodwyr, a derbyn y "garden wèn." Mewn un cyfarfod felly yn Mhenllwyn, lle yr areithid yn wresog, a than wres yr areithyddiaeth daeth Evan Rhobert ymlaen a chymerodd y "garden goch" yn arwydd o gymedroldeb, a mawr oedd llawenydd ei deulu o'i weled yn dyfod hyd hyny; ond fel yr oedd y cyfarfod yn myned ymlaen, gwresogodd yntau, a daeth drachefn ymlaen a chymerodd y "garden wèn" yn arwyddo llwyrymwrthodiad; ac ar ei ddyfodiad, dywedai y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, yr hwn oedd un o'r siaradwyr, "Yn awr am danat ti, Ianto bach, neu byth," a chadwodd ei ymrwymiad am ei oes. Mae yn debyg fod hyn wedi dygwydd cyn ei ddewisiad i fod yn