flaenor. Yr Evan Rhobert hwn oedd tad Ieuan Gwyllt. Dyn lled wyllt ei dymher ydoedd, ond er hyny yr oedd yn meddu llawer o rinweddau. Byddai ganddo barch mawr i'r Sabboth, ac i dŷ Dduw,—yr oedd hyn yn ddwfn ynddo; a rhoddai ef a'i wraig addysg grefyddol drwyadl i'w plant ar yr aelwyd gartref. Yr ydoedd yn gryn dipyn o rigymwr, ac hefyd yn ganwr da, ac y mae yn lled debyg ei fod yn deall rhyw gymaint o elfenau cerddoriaeth. Bu yn ddechreuwr canu am dymmor, ac y mae yn debyg mai yn nghapel Sion y bu hyny, o leiaf nid yn Mhenllwyn. Ond heblaw hyn oll, yr oedd yn "ddoctor" yn yr athrawiaeth, ac yn awdurdod; ac yr oedd ynddo hefyd ryw attyniad naturiol at yr ieuainc, i roddi cwestiynau iddynt, ac egluro iddynt elfenau gwybodaeth, ac yr oedd ganddo lawer iawn o hanesion i'w hadrodd wrthynt. Golygfa ddyddorol, ond nid anghyffredin, fyddai gweled Evan Rhobert yn cerdded ar hyd y ffordd, a nifer o rai ieuainc yn ei ganlyn, gan ymwthio ato a gwrando arno; ac os collai un rywbeth o'i sylwadau, trwy fethu clywed neu fethu deall, gellid gweled hwnw yn troi ato ac yn gofyn yn awyddus, "Beth oeddit ti yn ei 'weyd, Evan ?" Byddai yn fynych yn dadleu yn boethlyd yn yr Ysgol Sabbothol.[1] Yr oedd yr argraff a adawai ar feddyliau dynion ieuainc yn annileadwy. "Yr oedd Mr. Richard (y Parch. Ebenezer Richard) un tro
- ↑ Adroddodd y Dr. Edwards wrthym fod Ysgol Sabbothol yn cael ei chynnal yn Rhiwarthen. Ar y pryd yr oedd ysgolfeistr yn Mhenllwyn, yr hwn a fuasai ar ryw dro yn Llundain. Un Sabboth aeth yn ddadl rhwng Evan Rhobert a hwnw yn y dosbarth ynghylch ystyr rhyw adnod, yr hon ddadl a barhaodd hyd ddiwedd yr Ysgol, ac arosodd y ddau ar ol i'w gorphen. Oddiwrth ddadlu am ystyr yr adnod, aethant i daeru pa un oedd yn gwybod mwyaf, a'r modd y profid hyny oedd pwy oedd wedi gweled mwyaf o lyfrau. "Bum i yn y Gogledd," meddai Evan Rhobert, a gwelais lyfrgell hwn a hwn, a hwn a hwn," &c. "Pw! beth yw hyny?" meddai y llall; "bum i yn Llundain, lle y mae tai mawrion yn llawn o lyfrau !" Nid oedd y Dr. Edwards ond plentyn bychan gyda'i dad ar y pryd, ond gadawodd y sylw argraff ddofn ar ei gof.