Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pan oeddwn yn fachgenyn bychan yn llettya yn nhŷ fy nhad a mam. A boreu drannoeth, cyn i Mr. Richard ymadael, daeth Evan Rhobert yno, yr hyn nid oedd beth anarferol, gan ei fod yn byw heb fod ymhell, ac yn hoff o ymddyddan â fy nhad, ac o adrodd i minnau rai o'r hanesion difyr oedd ganddo yn drysor dihyspydd, am yr hen bregethwyr ac am y byd yn gyffredinol. Yr Evan Rhobert hwn oedd tad Ieuan Gwyllt a Mr. Robert Roberts; ac o ran gallu naturiol yr oedd yn gymaint dyn ag un o'i feibion. O'r hyn lleiaf, yn nesaf at fy nhad a fy mam, nid oes neb yr wyf fi dan fwy o rwymau iddo am addysg grefyddol, oblegid byddai ganddo bob amser ryw gwestiynau i'w gofyn i mi, yr hyn a alwai yn posio, yr hwn air yn ol Dr. Pughe sydd Gymraeg ddiledryw. Y boreu hwnw, gofynodd i Mr. Richard fy holi, gan feddwl mae yn debyg y byddai yn anhawdd cael cwestiwn na fedrwn ei ateb. Ond os hyny oedd ei ddysgwyliad, cafodd siomedigaeth enbyd, oblegid ni ddaeth ei ddysgybl trwy yr arholiad yn ogoneddus mewn un modd."[1] Pan yn gadeirydd i ddarlith Ieuan Gwyllt ar Gerddoriaeth, "Sylwai y cadeirydd (y Parch. Dr. Edwards) ychydig ar y cysylltiad oedd rhyngddo ef a thad y darlithydd, mai iddo ef yr oedd i briodoli llawer o'r awydd a ddaeth i'w feddwl am wybodaeth; byddai bob amser yn gofyn cwestiwn pan y cyfarfyddai âg ef, ac yn ymroddgar iawn fel blaenor yn yr eglwys y perthynai y cadeirydd iddi."[2] Bu farw Evan Rhobert Mawrth 20, 1844, ychydig cyn cyrhaedd ei driugain mlwydd oed. Yr oedd yma rywbeth heblaw gwybodaeth a nerth meddwl;—gallu i gyrhaedd meddwl yr ieuanc, ac i roddi cychwyniad iddo, ac y mae cael dynion yn meddu y gallu hwn o werth anmhrisiadwy mewn cymydogaeth. Yr oedd Evan Rho-

  1. Adgofion gan y Parch. Dr. Edwards, Bala. Goleuad, Medi 4, 1875
  2. Bala, Mawrth 2, 1857. O'r adroddiad yn yr Amserau.