Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bert, mae yn amlwg, yn meddu y "ddawn" i ddysgu plant yn helaeth, ac os cafodd y Dr. Edwards y fath fendith drwyddo, pa faint a gafodd y plant oeddynt yn cael eu dwyn i fyny ganddo ar yr aelwyd gartref?

Yr oedd Elizabeth (neu Bet) Rhobert yn ieuangach na’i gŵr o tuag wyth mlynedd a hanner, a ganwyd hi Awst 6, 1792. Yr oedd hi yn ferch i ŵr o'r enw Sion Llwyd, yr hwn oedd yntau yn ei ddydd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.[1] Dynes gref ydoedd, yn gantores ragorol, ac o duedd grefyddol iawn, ac ymhob modd yn ymgeledd gymhwys i Evan Rhobert a'i deulu. Yr oedd hefyd yn meddu craffder meddyliol, ac fel gwraig rinweddol yn arfer "craffu ar ffyrdd tylwyth ei thŷ;" a chawn iddi ddywedyd gyda golwg ar ei dau fachgen John a Robert"Robyn bach fydd y pregethwr mawr, ond John fydd pregethwr yr hen wragedd." Cafodd hi fyw i weled tri o'i phlant yn dechreu pregethu, a'r hynaf o honynt wedi cyrhaedd gradd helaeth o ddylanwad ac enwogrwydd. Bu farw Rhagfyr 30, 1860, yn 67 oed.

Bu i Evan Rhobert ac Elizabeth ei wraig bump o feibion ac un ferch. Ganwyd Elizabeth eu merch Mawrth 28, 1820, ac y mae yn awr yn fyw, yn wraig weddw yn Mhenllwyn, yr unig un o'r plant sydd yn parhâu hyd heddyw, a chanddi un ferch. Am John, gwrthddrych ein hanes, cawn roi hanes mwy helaeth eto. Ganwyd ef Rhagfyr 27, 1822. William, yr ail fab, a anwyd Tachwedd 10, 1826, ac a fu

  1. Yr ydym yn rhoddi hyn ar awdurdod Mrs. Pugh, chwaer Ieuan Gwyllt. Yn y Drysorfa am 1836, tu dal. 252, y mae rhestr o bregethwyr a gweinidogion Sir Aberteifi, y rhai oeddynt wedi meirw a'r rhai oeddent yn fyw, ond nid yw Sion Llwyd yn cael ei en wi. Dichon, er hyny, fod y dystiolaeth hon o eiddo Mrs. Pugh yn wir, oblegid oddiar y cof, y mae yn debyg, y gwnaed y rhestr hono. Deallwn hefyd fod awydd mawr i bregethu wedi bod ar Isaac, mab Sion Llwyd, yr hwn a breswyliai am dymmor yn nhŷ capel Penllwyn, ond ni chyrhaeddodd y nod. Yr oedd pregethu yn y gwaed