Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

farw Medi 2, 1851, yn y bummed flwydd ar hugain o'i oedran; a hwn, meddir, oedd y mwyaf addawol o'r plant oll. Yn 1828 ganwyd baban bychan prydferth iawn, yr hwn a alwyd yn Robert, ac a fu farw yn flwydd oed. Robert arall a anwyd Tachwedd 10, 1831, ac a ddaeth yn adnabyddus fel y Parch. Robert Roberts, Aberteifi, wedi hyny o Carneddi, ac yn ddiweddaf o Wilton Square, Llundain. Hyderwn yr ysgrifenir ei hanes yntau. Ond rhag ofn i un hanesyn a glywsom am dano fyned ar goll, ni a gymerwn ryddid i'w ddodi yma. Bu Robert am amser maith yn gweithio yn ngwaith mŵn y Goginan; ond un dystaw, tawedog ydoedd, ac anfynych y dywedai air wrth neb. Pan yn dechreu pregethu, yr oedd y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, yn un o'r rhai a ddaethant dros y Cyfarfod Misol i ofyn llais yr eglwys arno ac ymddyddan âg ef. Ar ol holi cryn dipyn arno, gofynodd Mr. Jones, "A ydych chwi yn meddwl eich bod wedi bod o fendith i rywun yn y gwaith acw er pan ydych yno?" Atebai Robert yn bwyllog, "Wn i ddim, syr;" ac wedi moment o ystyriaeth chwanegai, "Ond 'rwy'n meddwl y gallaf ddyweyd cymaint a hyn, syr, 'Ni lygrasom ni neb."" Gŵr neillduol ydoedd, a hynod ddarllengar a llafurus, a'i bregethau yn arddangos meddwl cryf-bwyd rhy gryf i'r lliaws; ond byddai ganddo ambell i flash oedd mor ddysglaer, fel nas gallai neb oedd yn bresennol beidio gweled ei llewyrch. Bu farw Awst 1, 1878, yn y seithfed flwyddyn a deugain o'i oedran. Ganwyd Isaac, yr ieuangaf, Mai 27, 1836. Gŵr ieuanc a hoffid yn fawr oedd yntau, a dysgwylid llawer oddiwrtho, ac y mae genym adgof byw am dano yn fyfyriwr yn y Bala. Llafuriai dan lawer o wendid a nychdod, a bu farw Mai 30, 1864, yn wyth mlwydd ar hugain oed. Fel hyn difianasant oll, ac yn gynnar mewn cymhariaeth, yn nghanol eu dyddiau. Rhoddid argraff ar ein meddwl, wrth edrych arnynt, eu bod wedi etifeddu