Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfansoddiad lled wydn a chryf wrth naturiaeth; ond o herwydd rhywbeth-dichon mai diffyg cynnaliaeth ddigonol yn moreu oes, yr oedd y cyfansoddiad hwnw heb ddigon o sylfaen a nerth i ddal y llafur, ac yn enwedig y pwys meddyliol a osodid arno, ac mewn canlyniad ei fod yn agored i nychdod maith neu ymosodiadau afiechyd. Fel yr oedd, teimlem fod eu cyfansoddiad yn dal llafur ac ymosodiadau fuasent wedi llethu llawer un â llai o wydnwch a chryfder ynddo. Dichon fod yr amgylchiadau hyn wedi bod yn foddion i flaenllymu eu meddyliau hwy, ond ar yr un pryd yn byrhâu eu hoes, ac yn eu tori i'r bedd yn nghanol eu defnyddioldeb.

Diammeu fod Evan Rhobert, trwy ei gwestiynau a'i hanesion, wedi bod yn foddion cychwyniad i lawer meddwl, ond cafodd yn ei deulu ddefnyddiau i roddi mwy o'i ddelw ei hunan arnynt nag a allai gael yn unlle arall. Yr oeddynt oll yn meddu meddyliau cryfion, ac wedi eu gwreiddio a'u seilio yn yr athrawiaeth, ac yn meddu chwaeth gref at gerddoriaeth. Ond yr hynotaf o honynt, a'r un a ennillodd iddo ei hunan safle o fwyaf o ddylanwad, ac a adawodd ei argraff ddyfnaf ar ei oes a'i genedl, oedd gwrthddrych ein hanes:—IEUAN GWYLLT.