PENNOD II.
EI FYWYD—Y PAROTOAD—PENLLWYN AC ABERYSTWYTH.
John Roberts.
CLYWSOM ef yn dyweyd mewn Cyfarfod Misol wrth ymdrin â'r ordinhâd o Fedydd, ei bod yn arferiad yn Sir Aberteifi, amser yn ol, i ymddyddan â'r rhieni yn y society cyn bedyddio eu plentyn, i'r dyben o'u dwyn i ddeall ystyr yr ordinhâd, ac i deimlo eu rhwymedigaeth gyda golwg ar eu plant. Arferiad ragorol oedd hon, a diammeu ei bod wedi cael ei dilyn yn yr amgylchiad hwn. Dydd Iau oedd Ionawr 30, 1823, ond nis gallwn wybod pa un ai pregeth ai ynte society oedd yn y capel ar y pryd, digon tebygol mai yr olaf.
"1823, May 13th, Parents removed to Ty'nyffordd near Penllwyn."
"1829, May 13th, Parents removed to Pistyllgwyn."
Ysgrifenodd y Parch. Robert Roberts, Llundain (ei frawd) fel y canlyn:—"Y mae yn ddrwg genyf nas gallaf
- ↑ Y mae y dates hyn wedi eu cymeryd o Fibl teuluaidd yn meddiant ei weddw Mrs. Roberts, ac yn llawysgrif Ieuan Gwyllt ei hun. Gwell genym eu rhoddi yn Saesoneg, fel yr ysgrifenodd efe hwynt.
- ↑ Yn Hydref, 1879, cawsom weled y lle. Saif Tanrhiwfelen ar y ffordd sydd yn arwain o Aberystwyth at Bont y Gŵr Drwg, oddeutu hanner milldir yn nês i'r diweddaf na chapel Sion. Y mae y tŷ bychan sydd yn dwyn yr enw Tanrhiwfelen yn awr yn fwy newydd, ac nid oes yn aros o'r hen dŷ y ganwyd Ieuan Gwyllt ynddo ond adfeilion o'r muriau pridd. Os hysbyswyd ni yn iawn, hen weithdy i John Davies y saer ydoedd wedi ei droi yn dŷ i Evan Rhobert a Bet, ar ol eu priodas.