Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar hyn o bryd roddi i chwi nemawr o ffeithiau eglur yn hanes boreu oes fy mrawd. Yr oedd naw mlynedd o wahaniaeth oedran yn peri ei fod ef yn ddyn ieuanc tra nad oeddwn i ond plentyn. Y mae rhai o'i gyfoedion wedi addaw cofnodi ychydig o'i hanes i mi. Nodaf i chwi rai, &c.

Ganwyd ef y 27ain o Ragfyr, 1822, mewn tŷ bychan a elwid Tanrhiwfelen, ar y bryn uwch ben Pwllcenawon (hen gartref Dr. Edwards o'r Bala). Clywais fy nhad yn dyweyd mai noswaith enbyd o rewynt ac eira oedd y noson y ganwyd ef; gwnaeth ei ymddangosiad yn y byd hwn dan grio; a pharhäodd, meddai fy mam, i grïo ddydd a nos am y flwyddyn gyntaf, oddieithr yn y capel, yr hyn oedd yn dra rhyfedd, os nad yn rhagarwydd o rywbeth. Yr oedd hyn yn gymhelliad neillduol i fy mam i'w gymeryd i'r capel mor fynych ag y gallai, ond ni chlywodd neb erioed ei lais. yn y capel nes iddo ddechreu ei arfer i ganu.

"Yn y flwyddyn 1823, symudodd ein rhieni i fyw i'gŵr Dyffryn Melindwr, o'r enw Ty'nyffordd, a phan oddeutu tair blwydd oed, cymerodd amgylchiad hynod le, a wnaeth argraff ddofn ar eu meddyliau gyda golwg ar John. Ar brydnawnddydd haf syrthiodd John dros y bont bren i'r afon, a bu yno yn hir cyn i lefain ei chwaer allu dwyn ymwared iddo (nid oedd hi ond pum' mlwydd oed); a phan gyfodwyd ef allan yr oedd yn ymddangos yn hollol farw, ond ar ol pedair neu bum' awr o gymhwyso gwres at ei gorff bychan, dadebrodd a dechreuodd anadlu. Credai fy rhieni o hyny allan fod gan Ragluniaeth Ddwyfol waith mawr i John i'w gyflawni, a'i fod yn anfarwol hyd nes y byddai'r gwaith hwnw ar ben. Bu mewn enbydrwydd am ei einioes amryw weithiau ar ol hyn.

"Pan yn bur ieuanc, rhwng saith ac wyth mlwydd oed, dechreuodd fyned i'r ysgol a gedwid y pryd hwnw yn Mhenllwyn gan Mr. Lewis Edwards, cefnder i'r Dr. Edwards. Clywais yr hen athraw yn dyweyd, er iddo fod