Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn cadw ysgol am faith flynyddoedd, na welodd neb yn dysgu mor gyflym â John Roberts. Nid oedd gan yr hen athraw, mae'n wir, ddim llawer i'w ddysgu i'r plant; Arithmetic (yn ol Walkingham) a'r Tutor's Guide; ond er mwyn tipyn o amrywiaeth, gosodai yr hen athraw y bechgyn goreu, yn enwedig y rhai y meddyliai eu rhieni eu dwyn i fyny yn offeiriaid, i ddysgu yr Eton Latin Grammar, yn Lladin ar eu cof. Yr oedd ei ragoriaeth mewn gallu ac ymroddiad i ddysgu yn ei wneyd yn wrthddrych erlidigaeth; a mynych y maeddwyd ef yn greulawn gan fechgyn hynach nag ef, yn unig am ei fod yn dysgu ei holl wersi ac felly yn ennill cymeradwyaeth yr athraw. Ynglŷn â hyn yr oedd ynddo neillduolrwydd arall,-ni wnai ymladd ar gyfrif yn y byd. Nid wyf yn ammeu na chafodd wedi hyny gyfleusdra i bentyru marwor tanllyd ar ben rhai o'i erlidwyr. Bu wedi hyny gydag un D. Griffith am ychydig amser yn dysgu Navigation; a chyda Mr. John Jones, Capel Dewi (Ceinewydd yn awr) yn dysgu Mensuration, ac yn olaf gyda Mr. John Evans, Aberystwyth, yn ymberffeithio yn y naill beth a'r llall." [1]

Cawn ychydig o hanes yr athraw hwn gan y Parch. Dr. Edwards o'r Bala yn ei "Adgofion" yn y Goleuad:—"Anfonwyd fi i ddysgu rhifyddiaeth at Mr. John Evans, Aberystwyth. Dyma un o'r dynion a wnaeth fwyaf o'i ôl fel athraw ar Sir Aberteifi, ac i ryw raddau ar Siroedd eraill. Ganwyd ef yn ardal Blaenplwyf, oddeutu pum' milldir o Aberystwyth. Pan yn ieuanc aeth ar ei draed yr holl ffordd i Lundain, gan feddwl y byddai ganddo bob mantais i ddysgu Saesoneg, ac i fyned ymlaen yn ddiddiwedd mewn gwybodaeth, ond iddo lwyddo i gyrhaedd y Brifddinas. Trodd hyn allan yn dda iddo mewn amser; ond bu yn

  1. O lawysgrif y Parch. Robert Roberts, Llundain, wedi dechreu, mewn black lead, ysgrifenu Cofiant i'w frawd, ond bu farw cyn gallu gwneyd ychwaneg na hyn.