Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywyll iawn arno ar y cyntaf, a gorfu iddo ddyoddef caledi a barodd iddo hiraethu yn fynych am fara haidd a chawl cenin Blaenplwyf. Bu yn llafurio i gadw ei hun rhag marw o newyn, trwy fyned o dŷ i dŷ i werthu llyfrau bychain: ond ychydig a ennillodd y ffordd hono, a rhoddwyd terfyn ar yr ychydig hyny trwy ei gymeryd i fyny fel troseddwr, am ei fod yn ei anwybodaeth heb gydffurfio â gofynion y gyfraith; a dyna lle yr oedd y bachgen diniwed o Blaenplwyf yn gorfod sefyll o flaen yr Ustus yn un o lysoedd Llundain i gymeryd ei brawf. Ond gwelwyd yn fuan nad oedd wedi troseddu yn wirfoddol, a gollyngwyd ef yn rhydd. Wedi hyny daeth ei amgylchiadau yn hysbys i rai o'r Cymry yn Llundain, ac y mae un o honynt yn neillduol, o'r enw Mr. Davies, musician, yn haeddu uwch coffadwriaeth nag a ellir roddi iddo trwy gyfrwng yr erthyglau hyn. Bu efe yn lle tad i'r gŵr ieuanc o Blaenplwyf, a rhoddodd ef yn yr ysgol gyda Mr. Griffith Davies, yr hwn a ddaeth mor hysbys ar ol hyny, nid i Gymru yn unig, ond i rai o'r dynion blaenaf yn Lloegr fel un o'r rhifyddwyr goreu yn ei oes. Yr oedd Mr. Griffith Davies ei hun yn gwybod beth oedd dyfod i fyny drwy anhawsderau. . . . . Yn ysgol Mr. Griffith Davies cafodd John Evans yr unig beth a ewyllysiai, a gwnaeth y defnydd goreu o'r cyfleusdra. Yna meddyliodd am ddychwelyd i Gymru, i wneuthur hyny o les a allai i'w gydwladwyr. Bu mewn mwy nag un man yn Sir Drefaldwyn-os nad wyf yn camgofio, un o honynt oedd Llanidloes yn ceisio sefydlu ysgol. Ac yn ddiweddaf oll symudodd i Aberystwyth. Yn raddol iawn y llwyddodd yno, er mai efe, os nad wyf yn camsynied yn fawr, oedd y rhifyddwr goreu yn Nghymru yn y dyddiau hyny tu hwnt i bob cymhariaeth. Y mae rhyw allu gan ffug, oblegid os bydd un yn gwneyd digon o ffugymddangosiad, y mae yn bur sicr o lwyddo—hyny ydyw, am ryw gymaint o amser. Ac o'r tu arall, y mae dyn gwir fawr o dan gryn anfantais,