Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am nas gall ymostwng i ffugio. Felly am John Evans, nid oedd yn proffesu dim nad oedd yn ei wybod, ac yr oedd yn gwybod mwy nag oedd yn ei broffesu, ac yn ei wybod yn drwyadl. Pe buasai wedi myned i Cambridge yn ieuanc, buasai yn sicr o fod yn uchaf yn rhestr y wranglers, ac fe allai yn senior wrangler. Nid wyf yn gwybod i ba raddau, wedi i mi fod gydag ef, yr oedd yn parhâu i gynnyddu yn gyfatebol i gynnydd yr oes mewn gwybodaeth; ond mi dybiwn nad oedd dim yn yr amser hwnw yn dywyll iddo o'r hyn a ystyrid ar y pryd yn perthyn i gorff cyfan o rifyddiaeth ac anianyddiaeth. Wrth ddywedyd hyn, ni ddymunwn arwyddo fod pwys mawr yn fy marn, ond yn traethu hyny o farn sydd genyf; ac eto pan y mae dyn yn derbyn atebion goleu gan ei athraw i bob cwestiwn a ofynir ganddo mewn unrhyw gangen o wybodaeth, y mae yn anhawdd iddo beidio barnu fod yr athraw hwnw yn deall yr hyn y mae yn ei ddysgu. Yr oedd genyf fantais i holi, gan fy mod yn llettŷa gyda ef yr holl amser y bum yn ei ysgol. Yr unig beth a welaf erbyn hyn yn ddiffygiol ynddo oedd ei hoffder at iaith chwyddedig Bonnycastle, yr hyn oedd yn tarddu, mi dybygaf, o'r diffyg o addysg glasurol; oblegid yr wyf wedi sylwi am athronwyr, eu bod fel rheol yn tueddu at chwyddiaeth, ac yn ymwrthod â iaith syml, os na fyddant, fel Syr John Herschell a Whewell, wedi eu trwytho yn dda mewn addysg glasurol. Ond pa fodd bynag am yr iaith, yr oedd y mater bob amser yn eglur iddo, ac nid ymfoddlonai ar ddeall yr hyn a ddywedid gan yr awdwr, ond mynai olrhain ei ymresymiadau hyd at eu gwreiddiau. Ac heblaw ei fod ef ei hun yn hyddysg ynddynt, yr oedd ganddo ddawn neillduol i greu ysbryd chwilio, a chariad at wybodaeth, yn yr ysgoleigion. Arferir yr un gair Cymraeg am un yn dysgu eraill, ac yn dysgu ei hun: ond y mae yma ddau beth gwahanol, yn gofyn cymhwysderau gwahanol, y rhai nid ydynt bob amser yn cydgyfarfod.