Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond yr oedd efe yn meddu gallu i ddysgu yn y ddau ystyr; ac yr wyf yn cofio yn dda ei fod wedi creu y fath frwdfrydedd ynof, fel yr oedd ffigyrau yn ymrithio o flaen fy meddwl pa le bynag yr awn." [1]

Ymddengys fod ysgol Mr. Evans wedi ennill cymeradwy aeth uchel gan y Dirprwywyr a wnaethant ymchwiliad i addysg Cymru yn y flwyddyn 1848, ac a fuont mor hynod yn eu llwyddiant i ganfod ei diffygion, heb gael ond ychydig o'i rhinweddau.

Yn yr ysgolion hyn cafodd John Roberts fanteision i ymgydnabyddu âg amryw ganghenau gwybodaeth, a daeth i gyffyrddiad â dynion oedd yn meddu gallu neillduol i godi awydd am wybodaeth; ac ymddengys ei fod ef ei hun yn meddu ar ysbryd ymroddedig i wneyd y defnydd goreu o'r holl fanteision a ddaeth i'w ran. Cawn ddangos, yn ol llaw, fod ei feddwl ef wedi ei lenwi âg awydd i gasglu gwybodaeth.

Chwe' blwydd a hanner oed ydoedd pan symudodd ei rieni o Dy'nyffordd i'r Pistillgwyn, ymhellach i fyny yn nyffryn y Melindwr. Cedwid Ysgol Sabbothol y pryd hwnw ar gylch ar hyd ffermydd y dyffryn hwnw, ac i hono y byddai John yn arfer myned; ac wedi iddo ddysgu darllen, ceid ef mewn dosbarth gyda rhai mewn oed. Yr oedd yn meddu serch cryf at yr Ysgol Sabbothol.

Byddai yn hoff o dreulio ei amser chwareu yn y coed a gylchynent ei gartref. Yr oedd wedi dysgu ysgrifenu yn dda pan yn bur ieuanc. Sylwyd fod ei fam yn gantores dda, a'i dad hefyd yn gryn dipyn o ganwr, a'i fod wedi bod yn ddechreuwr canu, a thipyn o ysbryd prydyddu ynddo. Dywedir fod John yn hoff o fod ar ei ben ei hunan yn fwy na chyda'r plant eraill yn chwareu. Yr oedd o ysbryd bywiog a chwareus hefyd, ac ymhyfrydai mewn bywyd

  1. O "Fy Adgofion," gan y Parch. Dr. Edwards, Bala, yn y Goleuad, Medi 11, 1875.