Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'gwyllt" ar hyd y coed, a phan y cai gareg neu ddarn o bapyr, ysgrifenai arno ryw rigwm o farddoniaeth neu dôn. Mae hanes am dano ar un adeg yn ceisio dynwared y tylwyth teg, er difyrwch iddo ei hunan, y plant eraill, a'r cymydogion a elent heibio. Ceir ei fod yn ceisio cyfansoddi pennillion yn foreu iawn, a'i fod hefyd yn deall rhyw gymaint ar egwyddorion cerddoriaeth o ddeuddeg i bymtheg oed; ac yn ol pob tebyg, y llyfr cyntaf ar hyny a gafodd i'w gyfarwyddo oedd llyfr W. Owen o Sir Fôn. Yr ydym yn cael hefyd fod amryw y dyddiau hyny yn myned oddiamgylch i ddysgu ysgolion canu. Crybwyllir am un o'r enw "Dafydd Siencyn y Borth," fel y cyntaf yn gwneyd hyny yn Penllwyn, ac wedi hyny un arall o'r enw Thomas Jenkins—dyn gwledig. Bu mewn dosbarth a addysgid gan Mr. James Mills, a chawn hefyd iddo fod yn mynychu ysgol ganu gan Mr. Richard Mills "droion, yn benaf yn nghapel Sion, ond yr oedd ef y pryd hwnw braidd yn fwy nag y mynai Mills iddo fod." [1]"Yr wyf yn ei gofio yn arwain côr cyn bod yn bymtheg oed, y dôn a'r gair o'i waith ei hun. Dyma'r gair:

"O'r bedd cyfodai 'n Harglwydd cu
Y trydydd dydd;
Gorchfygodd, maeddodd uffern ddu,
O Edom daeth yn rhydd:
Agorodd ffordd i Salem lân,
Rhodd fodd i'r mudan seinio cân
Hyd oesoedd rif y tywod mân,
Tragwyddol fawl byth iddo fydd.'

"Yr wyf yn cofio un arall ar yr Ysgol Sabbothol:—

"Mawl i'r Iesu fo 'n dragwyddol
Am yr Ysgol rad Sabbothol,
A'i manteision llawnion llon;

  1. Llythyr oddiwrth Mr. Absalom Prys, Penllwyn, at y Parch. R. Roberts, Llundain.