Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar ei bwrdd cawn hyfryd luniaeth,
Melus wleddoedd iachawdwriaeth,
Rhodd Duw Ion i ni yw hon:
Llwyddo wnelo drwy'r holl wledydd,
Miloedd eto ddelo 'n ufudd,
 Fel y seinier peraidd glodydd
I Dduw Jacob ein Gwaredydd,
Drwy bob parth o'r byd o'r bron.'

"Nid wyf yn cofio rhyw lawer o'i farddoniaeth, ond gwn iddo wneyd llawer pan nad oedd ond hogyn. Gwnaeth farwnad i Elizabeth, merch Job Silvanus.[1] Cafodd hon ei hargraffu. Cyfansoddodd gân i minnau yn erbyn yr arferiad o garu yn y nos. Nis gwn pa bryd na pha fodd y daeth i fod yn alluog i ganu tôn, ond gallaf feddwl nad oedd uwchlaw tair ar ddeg oed. Yr amgylchiad a ddaeth âg ef i'r golwg gyntaf oedd-fod ychydig o'r cyfeillion ar ddiwedd yr ysgol yn Blaen Dyffryn (Melindwr) yn ceisio canu rhyw dôn, ac yn methu gwneyd dim o honi yn lân; daeth yntau ymlaen, a chanodd hi rhag y blaen. 'Wel,' ebai John Pritchard, Ty'nypwll, 'mae John yn ddigon trech na ni i gyd,' a rhoddwyd y goreu iddo o hyny allan."[2]

Wrth gychwyn Cerddor y Tonic Solffa, ysgrifenai Ieuan Gwyllt ei hun fel hyn:-"Gwyddom yn dda beth yw yr ysfa blentynaidd am weled rhywbeth o'n heiddo mewn argraff; ac yr ydym yn cofio pa fodd y dychlamai y gwaed yn ein gwythienau pan yn agor y cylchgrawn misol a gynnwysai ein Tôn gyntaf, pryd nad oeddym ond pymtheg oed."[3] Dengys hyn ei fod wedi cyrhaedd safle a ystyrid

  1. Cynnwysai, heblaw pennillion, un englyn os nad ychwaneg, ac yr oedd mewn englyn y llinell "Defod yw myn'd i'r dufedd," yr hon a gondemnid gan barson y plwyf mewn ymddyddan, am y tybiai efe mai anghenrheidrwydd, ac nid defod, oedd yn peri i'r bobl fyned i'r bedd.O enau y Parch. J. Williams, Llandrillo.
  2. Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.
  3. Cerddor Tonic Solffa, rhif. I. tu dal. 3. Trwy ddiwydrwydd Mr. Absalom Prys y mae y dôn hon wedi ei chael, yr hon a ymddangosodd yn yr Athraw am fis Tachwedd, 1839-cyhoeddiad misol a gyhoeddid yn Llanidloes, dan olygiaeth y Parch. Humphrey Gwalchmai, ac y mae yn dda genym ei rhoddi i mewn yma. Dywedir fod Mr. J. Ambrose Lloyd wedi cyfansoddi y dôn "Wyddgrug," M. 8 7 3, yn 13 oed. Y mae y dôn hon, "Hafilah," o waith I. Gwyllt, yn dri llais a'r prif lais yn y canol, yn ol y dull arferol y pryd hwnw