Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iol ar "Budget Arglwydd Derby a'i ymddiswyddiad." Ionawr 5, 1853, "Programme Iarll Aberdeen." Ionawr 19, Madiai," ac un arall ar "Gymdeithas Ddiwygiadol Gymreig Liverpool;" ac o hyny ymlaen, cadwai ger bron ei ddarllenwyr o wythnos i wythnos ddesgrifiad bywiog a dyddorol o ysgogiadau y pleidiau gwleidyddol, a'r pynciau mewn dadl rhyngddynt. Pwysai yn fanwl bob athrawiaeth, gan chwilio y rhesymau drostynt, a'r egwyddorion oedd danynt. Safai yn gryf ar egwyddorion puraf a dyfnaf Rhyddfrydiaeth, a dadleuai yn wresog o blaid pynciau oeddynt y pryd hwnw heb ddyfod i sylw fel y maent erbyn hynDiddymiad pob treth eglwys, y Dadgysylltiad, diddymiad y crogi, diwygiad seneddol, diddymiad pleidgeisio, agoriad y Prifysgolion, Rhyddfasnach, attaliad y fasnach feddwol, cynnildeb yn y Llywodraeth, a Chymdeithas Heddwch. Y mae cryn nifer o'r pynciau y dadleuai drostynt wedi eu selio erbyn hyn ar ddeddflyfrau ein gwlad; y mae nifer mawr o rai eraill erbyn hyn yn brif bynciau y dydd; ac y mae amryw ag y mae corff ein cydwladwyr heb ddyfod eto i deimlo eu pwysigrwydd. Yr oedd yn hynod o gryf yn erbyn rhyfel, ac yn ystod rhyfel y Crimea, cadwai y darllenwyr â gwybodaeth gryno a chyflawn o safle y cwestiynau, a chondemniai y rhyfel hwnw yn gryf, ond yn bwyllog a phenderfynol. A'r un modd yn adeg gwrthryfel India, dangosai ei fod yn astudio y materion y dysgai eraill arnynt yn drwyadl. Ac ysgrifenai gryn lawer ar bynciau oedd yn dal perthynas â chwestiynau pwysig, megys desgrifiad o Twrci a Rwssia, ac o India, &c. Yr oedd yr Amserau yn wirioneddol yn arweinydd i feddyliau ei ddarllenwyr, o herwydd felly y credai efe y dylai newyddiadur fod; nid casgliad o ryw newyddion, ond papyr i arwain a dwyn allan egwyddorion a goleuo y wlad. Ac nid yn unig ysgrifenai erthyglau arweiniol galluog, ond gofalai am fwyd iachus a dyddorol yn holl gynnwys y papyr, eto na chai dim ym-