Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddangos y byddai raid i neb gywilyddio o hono. Ysgrifenai gryn lawer ei hun, yn ei feirniadaethau, ei adolygiadau ar y cyfnodolion ac ar lyfrau, "Tŷ Arthur Llwyd," a phynciau eraill; nid cerddoriaeth yn unig, ond gwybodaeth yn gyffredinol. Rhoddodd ysgrif neillduol o ddyddorol a da yn y rhifyn Rhagfyr 28, 1853, ar Fwrdd y Golygydd, ymha un y rhoddai gyfarwyddiadau rhagorol ar yr hyn a ddylai gohebiaethau fod,—1. Y meddyliau. 2. Y papyr. 3. Yr ysgrifen. 4. Y prif lythyrenau. 5. Yr attalnodau. 6. Trefniad yr ysgrif. Ond tra yr oedd yn gryf a manwl dros y gwirionedd a phurdeb, a gweddusrwydd, eto yr oedd yr un mor zelog dros ryddid barn a llafar, a gallai fwynhâu ac ni warafunai i'r darllenwyr fwynhâu digrifwch priodol. Hyn a arweiniodd i'r anghydwelediad rhyngddo ef a Mr. Lloyd y cyhoeddwr, ac y mae yn debyg mai hyn oedd yr achos i'r Dysgedydd feirniadu yr Hen Amserau a'r Amserau Newydd. Ni oddefai, wrth gwrs, ymosodiadau personol oddiar lid a malais, eto teimlai fod gan bob un hawl i ddadgan ei farn ar bersonau a sefydliadau fel y maent yn eiddo cyhoeddus. Ond yr ydym yn barod iawn i ddadleu dros ryddid barn os na byddwn ni yn cael ein cyffwrdd; ond os dywedwch rywbeth am danom ni, gwyliwch atoch. Tybiwn fod ymddiheurad Cymdeithasfa y Gogledd, o'r ochr arall, yn tarddu oddiar fod yr Amserau yn rhy ryddfrydig. Y mae gwroniaid rhyddid wedi bod dan deyrnged fel hyn ymhob oes. Y mae rhyw ddosbarth o ddynion a fynent gael eu rhestru ymhlith diwygwyr cymdeithas, eto ydynt mor synwyrol a chymedrol, fel y teimlant yn ddyledswydd arnynt hysbysu y cread nad ydynt hwy yn gyfrifol dros y bobl "eithafol." Gadawer iddynt hwy; myned ymlaen y mae y byd, a'r bobl eithafol sydd yn ei wthio yn ei flaen; ac oni b'ai am y rhai hyny, buasai er ys talm wedi sefyll, ac ymgeulo a llygru. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn ddiwygiwr o'r iawn ryw, ac yr oedd yr Amserau felly pan dan ei