Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olygiaeth; nid yn cymeryd rhyw hobbies i ddadleu drostynt ychwaith, ond oddiar egwyddorion cedyrn oedd yn rhaid iddynt weithio eu ffordd allan. Rhyddfrydwr trwyadl ydoedd, a gwnai ymdrechion diflino i gynhyrfu Cymru i fod felly. Ysgrifenai at Sir Aberteifi ar Restriad Etholwyr dan yr enw Cadwallon o Ben y Dinas, ac ymdrechai "nerth braich ac ysgwydd" ymhob modd i blanu egwyddorion Rhyddfrydiaeth yn ein cenedl. Nid oedd Cymru y pryd hwnw y peth ydyw heddyw, er nad yw heddyw ychwaith y peth y dylai fod; ond bu gan yr Amserau gryn lawer o law yn y gwaith o'i dwyn i'r hyn ydyw. Rhoddir lle i'r Parchedig William Rees, D.D., fel tywysog Golygwyr Cymru, ar gyfrif ei ragflaenoriaeth, a'r grym a'r dylanwad cryf a ennillodd fel golygydd cyntaf yr Amserau, a llythyrau yr "Hen Ffarmwr," ac yn hollol briodol felly; ond yn nesaf ato, ar gyfrif ei holl gymhwysderau fel sylwedydd craff ar symudiadau yr oes, ac hwyrach yn fwy cyflawn mewn arolygiaeth fanwl dros holl gynnwys cyffredinol y papyr, y gellir rhestru Ieuan Gwyllt. Ymaflai Hiraethog yn y prif wythïenau, gan eu dadlenu mewn dull grymus, a chyda nerth anwrthwynebol dychymyg bywiog, cymeradwyai neu gondemniai nes cyrhaedd meddyliau a chalonau ei ddarllenwyr. Olrheiniai Ieuan Gwyllt ddadblygiad egwyddorion gyda manylder a chraffder, a chadwai ei ddarllenwyr sylwgar yn well—versed yn oleuedig ar holl bynciau mawr y dydd, mewn gwleidyddiaeth a chrefydd.

2. Y Gwladgarwr—newyddiadur wythnosol, cyhoeddedig yn Aberdar, Hydref 21, 1858, hyd Hydref 7, 1859.

Rhoddasom o'r blaen achlysur ei symudiad i Aberdâr i gymeryd golygiaeth y newyddiadur hwn. Nid ymddengys ei fod wedi cadw na chasglu ynghyd ei ysgrifau i'r papyr hwn, ac ni fu gydag ef, fel y gwelir, mo'r blwyddyn. Tebygol ydyw nad oedd a fyno ond â'r prif erthyglau a'r prif gang enau, a bod rhywrai eraill yn gofalu am gynnwys