Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyffredinol y papyr. Fel y dywedasom, nid oedd yn teimlo yn ddedwydd am nas gallai gymeradwyo pob peth a roddid ynddo. Heblaw hyny, yr oedd maes arall yn graddol ymagor iddo—yr oedd yn dechreu pregethu, a'r Llyfr Tonau wedi dyfod allan, &c., fel y penderfynodd roddi yr olygiaeth i fyny. Gallwn fod yn sicr, fodd bynag, iddo wneyd y gwaith yr un mor gydwybodol a thrwyadl, a phleidio yr un egwyddorion, yn Aberdâr ag yn Liverpool.

3. Y Goleuad. Newyddiadur wythnosol at wasanaeth Crefydd, Llenyddiaeth, Gwleidyddiaeth a Moesau. O Gorphenaf 1, 1871, hyd Ebrill 30, 1872.

Argreffid ef y pryd hwnw yn Nghaernarfon, gan Mr. John Davies. Er fod teitl y papyr hwn, fel y gwelir, yn gyffredinol, eto papyr wedi ei fwriadu yn benaf fel organ neu gyfrwng cymundeb at wasanaeth y Methodistiaid Calfinaidd ydyw; ond na bu ac nad oes a fyno y Cyfundeb, fel y cyfryw, âg ef ymhellach na'i fod yn ddealledig mai ynddo ef y ceir adroddiad mwyaf awdurdodedig y Cyfarfodydd Misol, ac mai efe sydd yn rhoddi yr adroddiad cyflawnaf o'i weithrediadau. Meddiant i gwmni o bersonau sydd yn swyddogion ac aelodau Methodistaidd ydyw, a chychwynwyd ef yn Hydref 1869. Ar y cyntaf rhenid y gwaith golygyddol rhwng amryw bersonau, ac ysgrifenai amryw erthyglau iddo yn awr ac yn y man. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn un o'r rhai a ymunasant â'r symudiad, a chawn erthygl o'i waith, Rhagfyr 17, 1870, ar "Ryfel a'r Haul;" un arall Medi 17 yr un flwyddyn ar "Mr. Matthews, Aberystwyth;" a Thachwedd 26ain ar y "Te." Ond teimlid nad oedd sefyllfa pethau yn foddhäol mor benagored a hyny, ac fod yn well cael un Golygydd cyfrifol iddo. Yr oedd Mr. Roberts y pryd hwnw wedi ymneillduo oddiwrth ofal eglwysig, ac yn byw yn y Fron, Caernarfon, ac felly yn gyfleus o herwydd ei agosrwydd i'r swyddfa; a theimlid yn awyddus iawn iddo ef ymgymeryd â'r gwaith. Yr oedd ganddo