Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gryn lawer o waith ar ei ddwylaw, mae yn wir; ond yr oedd ei zel yn gryf dros y Goleuad, a chydsyniodd ar y telerau fod iddo gael cydnabyddiaeth am ei lafur, yr hyn oedd yn hollol deg. Ac wedi cymeryd y gwaith mewn llaw, ymaflodd ynddo o ddifrif, a theimlid yn fuan mai nid cellwair oedd y Goleuad ganddo ef. Ysgrifenai y "Nodion Wythnosol" bob wythnos, a chostiai hyny iddo lawer o ddarllen a sylwadaeth fanwl. Ysgrifenai y rhan amlaf ddwy, ac yn bur fynych dair, o erthyglau arweiniol rhagorol bob wythnos, ac yn fynych ryw bethau eraill iddo mewn adolygiad ar lyfrau, neu ysgrif ar ryw fater dyddorol. Yr oedd y "Gohebiaethau," hyny ydyw, y llythyrau gohebiaethol, dan ei ofal ef, ond cynnwys cyffredinol y papyr dan ofal Mr. J. Davies (Gwyneddon), yr argraffydd. Felly gwelir mai ychydig iawn o gynnorthwy yn y prif bethau a gafodd yn ystod yr olygiaeth hon, ond llafuriai ef yn galed—yn galed iawn; a gellir dyweyd fod cynnwys ei lafur yn ddigymhar o ran purdeb chwaeth, amrywiaeth, a meddylgarwch. Hwyrach mai y gŵyn benaf a ddygid yn erbyn y Goleuad y pryd hwnw oedd fod helyntion Ffrainc yn cael gormod o le yn barhâus, ac o herwydd hyny yn "sych." Yr oedd Ffrainc y pryd hwnw yn yr ymdrech yn ymffurfio ar ol y dinystr ofnadwy a wnaed arni yn y rhyfel â Prwssia, a dymchweliad yr ymherodr aeth. Ac iddo ef, oedd wedi sylwi yn fanwl ar ysgogiadau Ffrainc er ys dros ugain mlynedd, ac yn deall mor drwyadl yr egwyddorion pwysig oedd yn cydymdrech ynddi, a phwysigrwydd ei safle a'i dylanwad mewn cysylltiad âg Ewrop a'r byd, yr oedd ei symudiadau o ddyddordeb anghyffredin. Nid oedd eraill yn cael y fath ddyddordeb am nad oeddynt wedi astudio y mater mor drwyadl. Er hyny, dichon fod hyny yn cau allan i raddau gormodol symudiadau pwysig ein gwlad ein hunain, ac yn enwedig Cymru, a helyntion Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, yr hyn