Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd neges arbenig y Goleuad, er nad oedd hyny ychwaith heb gael sylw. Am yr holl lafur dirfawr hwn, am dri chwarter blwyddyn, nid oedd ei gydnabyddiaeth ond bechan—bechan iawn; ac hyd ei farwolaeth yr oedd y gydnabyddiaeth hono heb ei thalu iddo; ond erbyn hyn yr ydym yn tybied fod y mater hwnw wedi ei drefnu gyda'i weddw.

Cyn gadael y cysylltiadau gwleidyddol hyn, hwyrach y dylem grybwyll un mater arall er mwyn cyfiawnder â'i goffadwriaeth ef. Yn y flwyddyn 1868 dechreuodd egwyddorion Rhyddfrydiaeth, oedd wedi cael eu taenu mor ddyfal ganddo ef ac eraill, ymweithio yn gryf yn Nghymru, ac ennynodd zel a brwdfrydedd mawr; ac ymhlith eraill ymysgydwodd Sir Gaernarfon oddiwrth iau Toryaeth. Pa mor bell y cafodd Ieuan Gwyllt le i weithio yn gyhoeddus gyda'r ymdrech hono, nid ydym yn gwybod. Fodd bynag, taenwyd y gair fod gweinidog a cherddor enwog o enwad arall am ddiane oddiar ffordd yr etholiad; a rhywfodd neu gilydd hwyrach mai heb weled ei enw yn gyhoeddus gyda'r symudiad—dygwyd enw Ieuan Gwyllt hefyd i mewn i'r stori, ei fod yntau yn cilio. Gwnaeth y "Dyn â'r baich drain"[1] o'r Lleuad yn y Dydd ddefnydd o honi, mewn dull anghyffredin o ddoniol, gan ddarlunio y ddau gerddor yn teithio yn annibynol ar eu gilydd yn ngwres yr haf, ac yn cydgyfarfod ar ben bryn yn y Deheudir, ac yn diweddu gyda deuawd. Tynodd donioldeb y llythyr hwnw gryn lawer o sylw a thestun siarad, a chafodd Ieuan Gwyllt deimlo yn ddwys ond yn ddystaw oddiwrtho. Hyn sydd genym ni i'w ddyweyd ar hyn,—mor bell ag yr oedd a fyno y chwedl â Ieuan Gwyllt, yr oedd yn anwiredd hollol; ni fu syniad o'r fath erioed yn ei feddwl; ac nid yn unig hyny, ond tystiai wrthym iddo wneyd ymdrech i ddyfod o Gaergybi i Gaernarfon drwy rwystrau, y rhai y

  1. Mynyddog.