gallasai yn hawdd eu cymeryd yn ddigon o esgus, i gofnodi ei bleidlais dros yr ymgeisydd Rhyddfrydig. Gwyddai y rhai a'i hadnabyddent ef yn dda o'r goreu, ei fod ef yn rhy bur i'w egwyddorion i gilio yn ol; ond nid oedd pawb yn ei adnabod felly, a chafodd brofi erlidigaeth yn hollol ddiachos. Dylasai y camargraff gael ei gywiro yr un mor gyhoeddus ag y gwnaed ef, ond hyd yr ydym yn gwybod, ni wnaed hyny byth. Am dano ef ei hun, yr oedd yn rhy reserved, ac o bosibl yn rhy ddolurus ei deimlad, i amddiffyn ei hun trwy y wasg. Cyfiawnder âg ef yn awr yw dyweyd hyn drosto, oblegid dichon i rywun gael gafael ar y chwedl mewn amser dyfodol a'i hadgyfodi pan na byddo neb a all dystio i'r gwirionedd.[1]
3. Amrywiol Ysgrifau. Yn yr "Oenig"—(1855—57, dan
- ↑ Cafodd Mynyddog fyw ar ol Ieuan Gwyllt i gyfansoddi y geiriau canlynol i Requiem y Dr. Joseph Parry:
Wylwn! wylwn! cwympa 'r cedyrn,
Cwympa cedyrn Sion wiw;
Wylwn! wylwn! dianc adref
Y mae cewri mynydd Duw:
Cydalarwn dan y stormydd,
Crogwn ein telynau 'n syn,
Crogwn hefyd bob llawenydd
Ar hen helyg prudd y glyn:Y cadarn a syrthiodd, mae bwlch ar y mur,
A Sion ar suddo mewn tristwch a chur.
Ond udgorn Duw a rwyga feddau 'r llawr,
A syrth y ser yn deilchion ar un awr;
Dydd dial, dial Duw! dydd gwae i fyrddiwn fydd,
Ond dydd gollyngdod teulu 'r nef yn rhydd;Clywaf lais o'r ne 'n llefaru,
Treiddia drwy hen niwl y glyn,
Rhai sy'n meirw yn yr Iesu,
Gwyn eu byd y meirw hyn.Moliannwn! gorfoleddwn!
Cawn gwrdd i gydganu, cydfoli, cydfyw,
Mae allwedd marwolaeth wrth wregys ein Duw.