Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olygiad y Parchn T. Levi e D. Phillips. Abertawe: Rosser & Williams)."

"Mae y llythyrau at Gyfaill yn tu dal. 286, 341 a 462 o'r Gyfrol I., wedi eu hysgrifenu gan I. Gwyllt o Liverpool, dan yr enw 'Sion Llwyd' (Pentre Sais). Efe a anfonodd i mi 'Fy Album fy hun' hefyd yn tu dal. 454 o'r Ail Gyfrol, ac yr wyf yn meddwl mai efe ydyw awdwr y pennillion. Mae rhyw argraff ar fy meddwl mai ar Album Miss Hughes (Mrs. Josiah Thomas yn awr), yr ysgrifenodd hwynt. [1] Efe hefyd bïau Llythyr Sion Llwyd,' yn tu dal. 19 o'r drydedd gyfrol, ac yn ol a allaf gofio y llythyr at Gyfaill yn tu dal. 108." Llythyrau at ŵr ieuanc ydyw yr eiddo Sion Llwyd, ac y mae ynddynt gryn lawer o athroniaeth amgylchiadau bywyd, a phrofiad ac ysbryd crefyddol. Y maent yn dangos meddwl difrifol, braidd, hwyrach, yn bruddglwyfus; ac y mae y sylwadau ar Salm xxxvii., ar "ymddiried yn yr Arglwydd," yn rhagorol. Dyn fel Album ydyw testun y llinellau barddonol gwir ragorol a llawn tlysineb. Y mae y Llythyr at Gyfaill yn esiampl deg o hono ef yn ei lythyrau, a sylwadau bywiog o'r eiddo ar Liverpool, y Parch. D. C. Davies, M.A., Eben Fardd yn gwrando Jenny Lind, a'r Parch. John Jones, Talsarn, ond nid oes ond blanks yn yr 'Oenig." At y Parch. T. Levi yr ysgrifenwyd y llythyr, ac efe a gyhoeddodd y dyfyniadau heb ganiatâd, ni a dybiwn.

Telyn y Plant, Mai 1859 hyd Rhagfyr 1861, dan olygiad y Parch. T. Levi ac I. Gwyllt. Merthyr Rees Lewis.

Heblaw y tônau y crybwyllasom am danynt, I. Gwyllt a ysgrifenodd yr Anerchiad yn y rhifyn cyntaf, "Philosophi i'r Plant," tu dal. 148, 181, 202, 211 a 243, a'r adolygiad ar "Hymnau a Thônau gan E. Roberts, Liverpool," tu

  1. Llythyr y Parch. T. Levi. Mae Mr. Levi yn gywir yn y cwbl o hyn.