Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dal. 124 o'r ail Gyfrol. Anerchiad da yw y cyntaf, ond dichon ei fod yn llawn rhy uchel i'r plant ei ddeall. Eglurhâd dyddorol mewn dull o ymddyddan ar athroniaeth pethau cyffredin, dwfr, rhew, gwlaw, &c., yw y philosophi i'r plant. Pe buasai y rhai hyn wedi myned ymlaen am flynyddoedd, buasent yn werthfawr iawn.

Y Traethodydd. Treffynnon: P. M. Evans.

Yr ysgrifau o waith Ieuan Gwyllt a ymddangosodd yn y cylchgrawn chwarterol hwn oeddynt :-1857, tu dal. 275, Mendelssohn; 1866, tu dal. 133 a 471, Isaac Taylor; tu dal. 326, Yr Offeiriadaeth; 1867, tu dal. 261, Poen; 1869, tu dal. 46, Jonah; 1873, tu dal. 204, Brodyr yr Arglwydd; 1877, tu dal. 261, Bywyd ac Anllygredigaeth. Yn ei ysgrif ar Mendelssohn y mae wedi llwyddo yn anghyffredin i fyned i mewn i ysbryd ei destun-y mae ynddo gydymdeimlad byw âg ef; ac y mae rhai darnau, yr ydym bron yn teimlo wrth eu darllen, fod ei brofiad ef ei hun yn dyfod i'r golwg ynddynt. Hanes Mendelssohn ydyw, a beirniadaeth ragorol ar ei gyfansoddiadau a'i le yn y byd cerddorol. Cyfansoddwyd yr erthygl hon pan oedd yr awdwr yn olygydd yr Amserau. Ysgrifenodd ei ddwy erthygl ar Isaac Taylor, "ei hoff awdwr," chwedl yntau, yn fuan ar ol marwolaeth y gŵr enwog hwnw. Yr oedd unwaith wedi myned o Lundain Stamford Rivers, o bwrpas i gael gweled Isaac Taylor, a threuliodd ddwy awr yn ei gymdeithas. Gallem dybied fod awydd cryf ynddo i ddyfod i gyffyrddiad personol, os oedd modd, â'r gwŷr enwog a edmygai; oblegid nid yn unig darllenai eu gwaith, ond astudiai yn fanwl eu hanes a'u cymeriad; nid o ran chwilfrydedd gwag nac ymffrost, oblegid prin y clywid ef yn son ei fod wedi llwyddo i hyny, ond er mwyn deall y dyn. Yr oedd efe wedi darllen gweithiau Isaac Taylor yn fanwl iawn, ac yn edmygydd mawr o hono. Yr oedd rhyw gyffelyb-