Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rwydd yn nhuedd eu meddyliau, ac yr oedd crefyddoldeb dwfn a byw Isaac Taylor yn swynol iawn iddo. Rhydd ddarluniad ardderchog o'i hanes yn yr erthygl gyntaf, a'i weithiau yn yr ail; nid adolygiad arnynt yn gwbl, ond cymer afael ar yr egwyddorion sydd yn rhedeg drwyddynt. Mae tuedd gref yn yr erthyglau hyn i godi awydd cryf yn y darllenydd am ddarllen gweithiau rhagorol Isaac Taylor. Tybiwn mai ei Saturday Evening a ystyriai efe yn oreu. Mae yr erthygl ar "Boen" yn cynnwys ymchwiliad athronyddol a chrefyddol i'r pwnc: beth ydyw, o ba le y daeth, ac i ba amcan. Yr oedd efe, yn ddiammheu, wedi dyoddef llawer o boen ynddo ei hun yn ei oes, ac y mae myfyrdod ar y mater, fel y ceir ef yn yr erthygl hon, yn hollol gydweddol â natur ei feddwl ef. Y mae yr erthyglau ar "Yr Offeiriadaeth, Jonah, a Brodyr yr Arglwydd," yn cynnwys eglurhadaeth feirniadol, athrawiaethol ac ymarferol ar y pynciau dan sylw. Rhydd olwg gryno ar farnau gwahanol awdwyr arnynt, a dengys ei fod yn hollol gydnabyddus â'r testynau yn yr ieithoedd gwreiddiol, ac â barn pob esboniwr o bwys arnynt, a phwysa gyda barn a chraffder neillduol eu rhesymau drostynt. Ymdrechai roddi i'r darllenwyr syniad clir a thrwyadl ar y pwnc a ddygai i'w sylw. Y mae rhyw ddyddordeb pruddaidd yn perthyn i'r erthygl olaf, sef "Bywyd ac Anllygredigaeth." Ysgrifenodd hi ychydig amser cyn ei farwolaeth, a dyma un o'r pethau olaf a ysgrifenodd i'r wasg. Dywedai yn ei nodiad at y Golygydd, fod yn ei fryd ysgrifenu amryw erthyglau ar y mater: yn hon y mae yn trin ar angeu, a'r sefyllfa rhwng angeu a'r farn. Dengys ei fod yn deall yn dda beth yw syniadau gwyddonwyr ar fater ac ysbryd, a noda yn gywir iawn y terfynau priodol sydd i wyddoniaeth a dadguddiad. Eglura yn oleu y gwahanol farnau sydd ar y pwnc o fodolaeth y corff a'r enaid ar ol angeu,