Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan ddangos pa mor bell y mae yr Ysgrythyr yn rhoddi sail iddynt, ac ymha bethau y maent yn myned ymhellach na'r hyn a warentir gan ddadguddiad a gwyddoniaeth, a chloa i fyny trwy egluro yr hen athrawiaeth uniongred yn ei symlrwydd, pa mor bell y mae genym oleuni dadguddiad a gwyddoniaeth, ac ymha bethau y mae tywyllwch eto yn aros, ac yn y diwedd dywed ei fod yn gadael yr Adgyfodiad a'r Farn i fod dan sylw mewn erthygl ddyfodol-awgrymiad na chafodd fyw i'w roddi mewn gweithrediad. Fel y sylwai Gol. y Traethodydd ddydd ei gladdedigaeth, yr oedd yn rhyw gysur ei fod wedi cael ei arwain o ran ei feddwl i ymdrin a myfyrio ar y materion hyn, fel pe buasai yn ymgydnabyddu â hwynt wrth ddynesu atynt.

4. Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd. Cyhoeddedig trwy awdurdod Cymanfa Gyffredinol y Cyfundeb. Dinbych: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan Thomas Gee. 1869.

Yr oedd Ieuan Gwyllt er's blynyddoedd, fel y gwelsom yn ei ddarlith ar Gerddoriaeth, yn teimlo anghen am lyfr Hymnau gwell na'r rhai oedd gan y gwahanol enwadau, ond am flynyddoedd nid oedd arwyddion fod hyny yn debyg o ddyfod oddiamgylch. Ymddengys iddo ef ei hun wneyd parotoad ar gyfer hyn. Mewn llythyr dyddiedig Chwefror 11eg, 1852, dywed, "Y mae genyf just un gair i'w ddyweyd wrthych mewn ymddiried. Byddwch gystal a pheidio ei ddyweyd wrth neb ar hyn o bryd. Y mae genyf Gasgliad o Hymnau yn cael ei barotoi, ac mor gynted ag y cyhoeddir argraffiad o'm Llyfr Tonau yn y Tonic Sol-ffa, bwriadaf ddwyn allan Lyfr Tonau ac Emynau,―y ddau ynghyd-y dôn yn nodiant y Sol-ffa ar ben uchaf y tu dalen, a'r Emyn neu gymaint o'r Emynau a allaf roi ar y gweddill o'r tu dalen hwnw, a'r un dylynol cyferbyniol. Argreffir yr Emynau yn golofnau dwbl, fel na bydd raid talu am