Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bapur waste; ac ni bydd pris y ddau ynghyd, os gallaf fodd yn y byd, ddim yn fwy na'm Llyfr Tonau ei hun yn bresennol. Mae hyn oll yn GYFRINACHOL; ond dymunwn gael unrhyw awgrymiadau oddiwrthych chwi ar y pwnc. [1] Erbyn y Gymanfa Gyffredinol gyntaf yn Abertawe, 1864, yr oedd rhyw gymaint o deimlad am gael Llyfr Hymnau newydd ymhlith y Methodistiaid; ac wedi i'r Gymanfa hono ddyfod ynghyd, ac ystyried pa waith allasai wneyd er budd i'r holl Gyfundeb, syrthiwyd, yn un o'r pethau cyntaf, ar y priodoldeb o gael un Llyfr Hymnau. Un achos o hyny ydoedd fod dau o leiaf mewn arferiad lled gyffredin—un yn y Gogledd, a'r llall yn y Deheudir; teimlai rhai brodyr yn y Deheudir mai un a fyddai oreu, ac mai un y Deheudir ddylai hwnw fod, ac y mae yn bosibl fod hwnw yn rhagori ar un oedd ar y maes y pryd hwnw. Penodwyd Pwyllgor gan y Gymanfa hono o nifer o'r dynion goreu, [2] o'r Gogledd a'r Deheudir, at y pwrpas hwnw, feddai y Cyfundeb. Cymerodd amser maith i'r Pwyllgor hwnw i ddwyn y gwaith ymlaen, oblegid penderfynid ei wneyd yn drwyadl. Ymddengys fod pwys hyrwyddo y gwaith wedi cael ei osod ar Ieuan Gwyllt. Dygwyddasom alw heibio iddo yn Llanberis yr adeg yr oedd ar droed, a gwelsom y llyfr yn y MS., a chawsom yn yr ymddyddan ychydig o hanes ei ddygiad ymlaen. Wedi i'r Pwyllgor gyttuno ar yr

  1. Cyfieithad o lythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.
  2. Dyma'r penderfyniad, "Bod y cyfarfod hwn yn barnu y byddai yn dra dymunol cael un Llyfr Hymnau i'r holl Gyfundeb, y cyfryw lyfr i fod yn feddiant i'r Gymanfa Gyffredinol, ac yn dewis y Parchedigion Henry Rees, Liverpool; Lewis Edwards, M. A., Bala; David Jones, Treborth; Roger Edwards, Wyddgrug; Thomas Phillips, Henffordd; John Roberts, Merthyr; David Charles, Caerfyrddin, a William Thomas, Pontllanfraith, i fod yn Gyfeisteddfod i gymeryd mesurau tuag at gyrhaedd yr amcan hwn, a dwyn casgliad o Hymnau i mewn i'r Gymanfa nesaf. Y Parch. Roger Edwards i fod yn Ysgrifenydd y Cyfeisteddfod."