Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

egwyddorion, ar rai o ba rai y bu llawer o ddadleu, ysgrifenid yr emynau gan I. Gwyllt, ar bapyr quarto, a dim mwy nag un emyn ar yr un papyr, gyda digon o le o'r ddeutu, ac anfonid sypyn o emynau felly i aelodau y Pwyllgor ar gylch o'r naill i'r naill drwy y post; a rhoddai pob un ei enw wrth bob emyn, naill ai mewn cymeradwyaeth neu gondemniad; ac ni chaffai un emyn fod yn y llyfr heb fod mwyafrif y Pwyllgor yn ei chymeradwyo. Yr oeddid wedi penderfynu argraffu yr emynau fel y cyfansoddwyd hwynt gan eu hawdwyr, ac nid dilyn neb o'r "Cyfnewidwyr Hymnau;" ac yn yr ychydig gyfnewidiadau bychain a wnaed, yr oedd yn rhaid i'r cyfnewidiadau hyny gael cymeradwyaeth y mwyafrif o'r Pwyllgor, yn y dull a nodwyd. Gwelsom y pile fawr o'r papyrau hyn a gyfansoddent y llyfr, ac y mae yn amlwg fod hyn oll wedi costio llafur dirfawr i'r un oedd erbyn hyn yn Ysgrifenydd y Pwyllgor, sef Ieuan Gwyllt. Y mae y Rhagymadrodd wedi ei ysgrifenu ganddo ef, a'r cyfarwyddiadau, y Mynegai i'r adnodau o'r Bibl, a'r Mynegai i faterion pob emyn, ac y mae gofal mawr wedi cael ei ddangos i roddi enw awdwr priodol pob emyn wrthi. Dichon y gallasai y ddau fynegai fod yn fwy cyflawn, ond gwaith yw hyn i'w wneyd eto gan rywun yn meddu digon o amser a phwyll. Wrth ystyried y llafur dirfawr oedd gan y Pwyllgor i'w gyflawni, ac hefyd fod y mynegai yn cael ei wneyd o'r MS., y mae yn llawn mor gyflawn ag y gellid dysgwyl iddo fod. Rhoddwyd hefyd, er mwyn cyfleusdra i ddechreuwyr canu, enw tôn neu ddwy uwch ben pob emyn, ac y mae priodoldeb y cyfaddasiad yn brawf o'i graffder a'i chwaeth ef. Rhoddwyd ychydig Salmau hefyd, er rhoddi prawf a ymgymerai y Cyfundeb â chanu Salm-donau (chants), ond prin y maent hyd yma wedi cael dim sylw. Tybiwn fod y Mynegai i bob emyn. hefyd wedi ei gasglu ganddo ef, ac ni ŵyr neb ond y