Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhai sydd wedi cael profiad, y llafur dirfawr sydd yn myned i wneyd mynegai egwyddorol. Felly, arno ef y disgynodd y llafur mwyaf gyda'r casgliad hwn. Nis gwyddom beth a ddaeth o'r casgliad oedd ganddo ef ei hun wedi dechreu ei barotoi; tybiwn ei fod wedi cael ei suddo yn hwn. Yn Nghymanfa Aberystwyth, 1866, cawn y Llywydd (Dr. Edwards) a'r Parch. Roger Edwards yn rhoddi hanes pa le yr oedd y llyfr, a phenderfynwyd ymddiried gorpheniad y gwaith i'r Parchn. D. Jones, Treborth, a John Roberts (Ieuan Gwyllt)—Mr. Roberts i fod yn convener y Cyfeisteddfod." Hefyd "Bod awdurdod yn cael ei roddi i'r Cyfeisteddfod ddwyn allan y Llyfr Hymnau mor fuan ag y byddo modd, a bod iddynt ofalu am wahanol types, a maintioli, a phris priodol i gyfarfod âg anghen y cynnulleidfäoedd." Ar ol i'r llyfr ddyfod yn barod, anfonwyd am gynnygion i'w argraffu; ac wedi ystyriaeth, gwelodd y Pwyllgor yn oreu dderbyn cynnygiad Mr. Gee o Ddinbych. Felly, yn nghofnodau Cymanfa Gyffredinol Llanelli, 1868, "Gwnaed adroddiad o weithrediadau Cyfeisteddfod y Llyfr Hymnau, gan y cynnullydd, y Parch. John Roberts, Llanberis. Hysbyswyd fod y copy oll yn barod yn llaw yr argraffydd, sef Mr. Gee, Dinbych; fod y cyttundeb rhwng y Cyfeisteddfod a'r argraffydd wedi ei orphen; mai swllt fydd pris y plyg a'r rhwymiad rhataf, a phedwar swllt y mwyaf; y llyfr lleiaf i fod yn barod yn mis Tachwedd, a'r llall yn Rhagfyr. Darllenwyd y cyttundeb rhwng y Cyfeisteddfod a'r argraffydd yn y cyfarfod. Mewn atebiad i gais oddiwrth y Cyfeisteddfod, penderfynwyd:—Fod awdurdod yn cael ei roddi iddynt i ddwyn allan argraffiad o'r Hymnau gyda Thonau priodol i'w canu arnynt." Tynwyd y cyttundeb allan gan Ieuan Gwyllt. Nid yw yn perthyn i ni yma i basio barn ar y cyttundeb hwn, ond diammheu, ag ystyried yr holl amgylchiadau, fod y Pwyllgor yn