Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ystyried mai hwnw oedd y goreu allasent wneyd. Wedi pasio y penderfyniad uchod gyda golwg ar y Llyfr Hymnau a Thonau, cododd gwrthwynebiad gan yr argraffydd i hyny, yr hyn a barodd lawer o drafferth a gofid i Gynnullydd y Pwyllgor; ond yn y diwedd cafwyd allan fod yn berffaith deg a rheolaidd, yn ol y cyttundeb, i hyny gael ei wneyd. Er hyny, ni chariwyd yr amcan byth i weithrediad. Ar ol i'r argraffiad cyntaf ddyfod allan, cododd cwyn led gyffredinol yn y wlad o herwydd ei ddiffygion, ac yn Nghymanfa Gyffredinol Liverpool, 1869, "Wedi ymddyddan maith, penderfynwyd ein bod yn derbyn eglurhâd Mr. Gee, ar yr hyn y cwynir o'i herwydd mewn cysylltiad â'r Llyfr Hymnau, a'n bod yn ymddiried i'w air a'i anrhydedd y diwygir y gwallau, ac y symudir pob achosion o'r cwynion rhagllaw." Ar ol hyn, bu ymgais am gael argraffiad canol rhwng y brasaf a'r manaf; ond o herwydd nad oedd hyny yn y cyttundeb, ac na wnai yr argraffydd ddim dros ben hwnw, methwyd a chael hyny oddiamgylch. Erbyn hyn, y mae y cyttundeb hwnw wedi dyfod i ben. Yr ydym yn crybwyll yr amgylchiadau hyn yn unig am eu bod yn dangos y ffyddlondeb a'r ymroddiad gyda pha un y gwasanaethai Ieuan Gwyllt Gyfundeb y Methodistiaid, er fod hyny yn costio iddo ddirfawr drafferth a llafur, a chryn lawer o ofid meddwl. Pe buasai yn dilyn ei gynllun cyntaf, sef cyhoeddi Casgliad o'r eiddo ei hun, gallasai gael llai o'r pethau hyn, a mwy o elw iddo ei hun; ond yr oedd efe yn caru llwyddiant a dyrchafiad Methodistiaeth fel y cyfryw, ac nid mewn un modd yn hoffi cael marchogaeth y Corff er ei les personol.

Fel ysgrifenydd, yr oedd ei iaith yn ddillyn a choethedig, a'i feddyliau yn athronyddol ac ëang, a'r eglurhâd o honynt mor dryloëw a'r dwfr glân. Darllena ei holl ysgrifeniadau yn berffaith esmwyth a naturiol, mewn