Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymraeg pur, heb ddwyn dim bastarddaidd na Saesoneg, oni byddai yn anmhosibl trosglwyddo y syniad heb hyny. Yr oedd yn Gymro trwyadl a phur, a'i frawddegau bob amser yn Gymreig o ran eu harddull. Yr ydym yn cofio un amgylchiad mewn llettŷ yn Llandrindod, lle yr oedd yno hen glerigwr o'r Deheudir (ond genedigol o'r Gogledd), yr hwn a achwynai yn fawr ar iaith y Deheudir, a dywedai fod iaith y Gogledd yn fwy pur, gan nodi esiamplau. Wedi gwrando arno yn bwyllog, dangosodd Ieuan Gwyllt iddo fod y geiriau yr achwynai arnynt yn drwyad a gwreiddiol Gymreig, gan egluro eu hystyr, nes y bu gorfod i'r gŵr ddystewi. Yr oedd wedi darllen llawer, a meddwl wrth ddarllen; a pha beth bynag am wreiddiolder, yr oedd ei feddyliau bob amser yn eiddo iddo ei hun. Tueddai yn fynych, wedi taraw ar ryw syniad, i ddilyn ychydig ar ol hwnw, ac yna dychwelyd at ei bwnc. Hwyrach fod y dyfyniad canlynol o un o'i lythyrau yn rhoddi i ni gipolwg ar ei ddull o feddwl. [1] "Rhaid i chwi gofio mai nid esgusawd dros fy anffyddlondeb fel gohebydd ydyw rhyw lith fel yna, ond darn o feddwl a wibiodd trwy fy mynwes wrth fwrw rhyw hanner mynyd o olwg dros fy ymddygiadau. Fe allai, wrth i chwi halio ar ryw ddernyn fel yna, y daw i chwi y meddylddrych yn gyfan, ac y cewch y pleser o fyned i fewn a chwilio celloedd ei galon. Meddylddrych yn gyfan!' a ddywedais i? Hawyr anwyl, beth sydd yn gyfan yn ein byd ni! O ran' y mae pob peth yma. Rhyw ranau o bob peth a geir yma—y byd nesaf yw byd y cyfan. Hynod, onidê? mor blentynaidd ydym; edrychwch ar y dyn mwyaf ei gyrhaeddiadau a fu yn y byd erioed. Am ryw foment y mae yn siarad synwyr, y foment nesaf y mae yn baldorddi nonsens; yn awr

  1. At y Parch. T. Levi.